Diogelwch Dŵr yn yr Ardd



Wrth i'r tymheredd godi, mae'r haf yn amser gwych i fwynhau eich gardd, a bydd pobl yn treulio mwy o amser mewn pyllau padlo a thwbâu twym.




  • Peidiwch byth â gadael eich plentyn yng nghyffiniau dŵr heb neb yn ei oruchwylio. Gall plant foddi mewn cyn lleied â 2 cm o ddŵr
  • Gwyliwch blant bob amser pan fyddant mewn dŵr neu o'i gwmpas
  • Cadwch blant ifanc o fewn hyd braich i oedolyn 
  • Gwagiwch byllau padlo, cynwysyddion, bwcedi a chaniau dyfrhau cyn gynted ag y maent wedi cael eu defnyddio – gellir defnyddio'r dŵr o bwll padlo i ddyfrhau'r ardd.
  • Trowch byllau padlo a chynwysyddion wyneb i waered bob tro pan fyddant yn wag fel nad ydynt yn casglu dŵr
  • Cyn gynted â phosibl ar ôl eu defnyddio, gorchuddiwch bob twba twym a sba cartref yn ddiogel
  • Sicrhewch fod gan blant hŷn gwmni bob tro y byddant yn nofio neu'n defnyddio twbâu twym
  • Gosodwch gril rhwyllog cadarn i orchuddio pyllau; mae angen iddo fod yn ddigon cryf i gynnal pwysau plentyn heb fynd o dan wyneb y dŵr.
  • Trowch bibennau dyfrhau i ffwrdd yn y tap bob amser fel na all plant fynd ati i lenwi cynwysyddion