Diogelwch Tanau Gwyllt



Yn ystod yr haf, gall glaswellt a mynyddoedd fod yn sych iawn, sy'n golygu y bydd tân y byddwch yn ei gynnau'n fwriadol neu'n ddamweiniol yn yr awyr agored yn ymledu'n gyflym dros ben, gan ddinistrio popeth sydd o'i flaen. Ar y cyfan, ni chaiff y niwed i'r dirwedd oddi amgylch, na'r effaith ar nodweddion hanesyddol, cynefinoedd na bywyd gwyllt, eu cydnabod.





  • Peidiwch â gadael tanau heb fod rhywun yn cadw llygad arnynt.
  • Dylai'r tân fod o leiaf ddeg metr o'r babell a dan y gwynt.
  • Adeiladwch bentwr o goed tân a fydd yn disgyn tuag at i mewn wrth losgi.
  • Sicrhewch fod tanau'n cael eu diffodd yn llwyr ar ôl i chi orffen eu defnyddio.
  • Cliriwch ddail a llystyfiant sych, ac ati, i greu cylch o bridd o amgylch y tân.
  • Sicrhewch nad yw unrhyw farwor sy'n cael eu dal gan y gwynt yn glanio ar bebyll neu garafannau pobl eraill.

  • Os ydych yn llosgi unrhyw beth yn eich gardd, mae’n bwysig eich bod yn ystyried os ydyw’r mwg yn effeithio ar eich cymdogion.
  • Gall y mwg o’ch tân orfodi pobl i gau eu ffenestri a’u hatal rhag oeri eu cartrefi. Mae pobl sydd gydag anawsterau anadlu ac anhwylder anadlol yn aml yn dioddef yn fwy mewn amodau poeth ac mae’r mwg, sydd yn dod o dân, yn medru gwneud eu cyflwr yn waeth.
  • Os yw eich cymdogion wedi hongian dillad allan i sychu, rowch wybod iddynt eich bod yn bwriadu cynnau tân fel y gallent gael cyfle i gasglu’r dillad cyn i chi ddechrau llosgi.
  • Byddwch yn barod i ddiffodd eich tân. Os yw cymydog yn cael ei effeithio gan eich tân, peidiwch â chymryd hi’n bersonol. Y peth ystyriol i wneud yw diffodd y tân a lleddfu ei anesmwythder.


Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru



Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn ddull aml-asiantaethol o wella ein dealltwriaeth a’n rheolaeth o’r perygl y mae tanau gwyllt yn ei beri i amgylchedd a chymunedau Cymru.

Mae ei nodau a'i amcanion, a gyflawnir drwy Siarter Tanau Gwyllt Cymru, yn adeiladu ar yr wybodaeth a'r profiad a gafwyd dros y degawd diwethaf gan roi sylw i berygl parhaus newid hinsawdd a gwerth annog cymunedau ac unigolion i gydweithio i ddiogelu'r ardaloedd lle rydym yn byw, yn gweithio ac yn ymweld â nhw.

Amcan y bwrdd yw ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol, gan gydweithio er mwyn cefnogi’r gwaith o reoli tanau gwyllt, gwrando a rhannu datrysiadau ymarferol ar gyfer Cymru. Trwy'r dull cydweithredol hwn, mae asiantaethau ar Fwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn gobeithio rhoi gwell dealltwriaeth o'r hyn y gellir ei wneud i gyfyngu ar nifer y tanau gwyllt, yn ei dro, a thrwy hynny leihau’r difrod y gallant ei achosi i’n hamgylchedd.




Wales Wildfire Charter



Mae Siarter Tanau Gwyllt Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru wedi'i seilio ar yr wybodaeth a'r profiad a gafwyd dros y degawd diwethaf ac yn rhoi sylw i heriau newid hinsawdd a gwerth annog cymunedau ac unigolion i gydweithio i amddiffyn yr ardaloedd lle rydym yn byw, yn gweithio ac yn ymweld â nhw. 

Mae Siarter Tanau Gwyllt Cymru wedi'i lunio o amgylch tair thema allweddol, pob un wedi'i gynllunio i sicrhau bod y Bwrdd, a'i aelodau, yn gallu canolbwyntio ar y meysydd sydd nid yn unig angen y sylw mwyaf ond a fydd hefyd yn cael y dylanwad mwyaf wrth wella ein dealltwriaeth o danau gwyllt a sut y gall y Bwrdd reoli eu heffaith yn gadarnhaol. 



Trwy ddull partneriaeth sy'n esblygu, bydd Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn dod â Llywodraeth Cymru, y Gwasanaethau Brys, Sefydliadau Cyhoeddus a Phreifat, Tirfeddianwyr a Defnyddwyr Tir ynghyd i reoli a datblygu ein tirwedd. 

Bydd Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn cyfrannu at reoli'r dirwedd i amddiffyn bywyd gwyllt, coedwigaeth a bywoliaeth, gwella lles, iechyd ac amwynder, hwyluso cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, a chreu ymdeimlad o le a pherchnogaeth gymunedol. 

Bydd Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn gweithredu ystod amrywiol o dechnegau rheoli i leihau effaith tanau gwyllt ar ein cymunedau a'r dirwedd yng Nghymru. 




Y Cod Llosgi Grug a Glaswellt



Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn parhau i weithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr ledled Cymru, a gyda'n gilydd rydym yn ceisio atal colli bioamrywiaeth yng Nghymru.  Rydym yn deall y gall llosgi dan reolaeth fod yn fuddiol ac yn dda i’n tirwedd, a’i fod yn meithrin amrywiaeth fiolegol ac yn creu ecosystemau iachach.

Gall ffermwyr a thirfeddianwyr barhau i losgi grug, glaswellt, rhedyn ac eithin hyd at 15 Mawrth (hyd at 31 Mawrth ar ucheldir), ond rhaid iddyn nhw gael Cynllun Llosgi er mwyn sicrhau eu bod yn llosgi'n ddiogel. Mae'n anghyfreithlon llosgi rhwng machlud haul a’r wawr, ac mae'n rhaid sicrhau bod digon o bobl ac offer wrth law trwy’r adeg er mwyn rheoli'r llosgi. Gall torri'r rheolau hyn arwain at gosb o hyd at £1000.  Rydym eisiau gweithio gyda'n tirfeddianwyr lleol i sicrhau nad yw hyn yn digwydd.  Gallwch gysylltu â ni am gyngor rhad ac am ddim ar losgi'n ddiogel ac mae gennym ragor o wybodaeth am Ddiogelwch Fferm yma.

Gallwch ddarganfod mwy am y Cod Llosgi Grug a Glaswellt – a lawrlwytho Cynllun Rheoli Llosgi o wefan Llywodraeth Cymru.

Os gwelwch dân sy'n edrych fel y gallai fod allan o reolaeth neu'n cael ei losgi'n anghyfreithlon, yna ffoniwch CrimeStoppers yn ddienw ar 0800 555 111, neu ffoniwch 101. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.