Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth am ddiogelwch y cyhoedd, rhaglenni atal ac amddiffyn, a gwasanaeth ymateb brys ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Rydym yn cyflogi dros 1,350 o aelodau staff ac yn gwasanaethu bron 12,000 cilomedr sgwâr - bron i ddwy ran o dair o Gymru.
Gellir rhannu gwaith Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru gyda Phlant a Phobl Ifanc yn bedwar maes gwahanol, sef: Cadetiaid Tân, Ffenics, Addysg a Chyneuwyr Tanau.
Mae gweithio i'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn rôl uchel ei pharch yn y gymuned. Rydym yn dibynnu ar dîm o bobl sydd â chymysgedd o sgiliau a phrofiad i ddarparu gwasanaeth rheng flaen effeithiol a gwneud ein rhanbarth yn fw...
Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn eich annog i fod yn ymwybodol o beryglon tanau gwyllt dros dymhorau’r gwanwyn a'r haf #doethidanaugwyllt.
Mae gweithio i'r gwasanaeth tân ac achub yn rôl uchel ei pharch yn y gymuned. Rydym yn dibynnu ar dîm o bobl sydd â chymysgedd o sgiliau a phrofiad i ddarparu gwasanaeth rheng flaen effeithiol a gwneud ein rhanbarth yn fwy diogel rhag tân.
Dweiswch eich iaith : Choose your language:
Wrth i'r nosweithiau tywyllach a'r tywydd oerach gyrraedd, rydym yn annog pawb i gymryd amser i ystyried diogelwch y gaeaf ac unrhyw risgiau ychwanegol a fydd yn helpu i'ch diogelu chi a'ch eiddo rhag peryglon posibl y gaeaf hwn. Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu i gadw'n ddiogel.
byddwch chi'n treulio mwy o amser gartref gan ddefnyddio mwy o offer trydanol a gwresogi a fydd yn naturiol yn dod â risgiau ychwanegol, boed hynny o dân, llifogydd neu o risgiau carbon monocsid.
Rydym hefyd yn eich annog i gymryd camau syml i ddiogelu eich hun rhag tanau damweiniol a gwenwyn carbon monocsid wrth i chi geisio cadw'n gynnes a lleihau defnydd ynni’r gaeaf hwn. Dylai profi eich larymau mwg a’ch synwyryddion carbon monocsid yn rheolaidd fod yn un o'ch prif flaenoriaethau.
Mwy o wybodaeth
Coginio'n ddiogel
Diogelwch canhwyllau
Gwresogyddion cludadwy
Simneiau, tanau agored, a stofau llosgi coed
Diogelwch Carbon Monocsid
Fel Gwasanaeth, rydym yn gweithio'n agos gyda'n cymuned a'n partneriaid i wneud Canolbarth a Gorllewin Cymru yn lle mwy diogel i fyw, gweithio ac ymweld ag ef. Ar y cyd â'r gwaith rydym yn ei wneud gyda phobl ifanc, ymweld ag ysgolion a chynnal ymweliadau Diogel ac Iach rydym hefyd yn gyfrifol am orfodi deddfwriaeth diogelwch tân. Rydym am sicrhau bod gan bawb lefel ardderchog o gefnogaeth y gaeaf hwn ac rydym yn rhoi cymorth ychwanegol i'r rhai sydd ei angen trwy wiriad Diogel ac Iach. Rydym yn deall y gall rhai pobl deimlo'n fwy ynysig yn ystod misoedd y gaeaf ac y gallent ei chael hi'n anodd gwybod pa ffordd i droi o ran aros yn ddiogel. Os oes gennych ffrindiau, teulu neu gymdogion a allai elwa ar gyngor diogelwch tân, dywedwch wrthynt am ein hymweliadau Diogel ac Iach.
Diogelu Ymweliadau Diogel ac Iach
Bydd gwneud paratoadau syml i'ch cerbyd a hefyd ystyried y tywydd a'r amodau ar y ffyrdd, cynllunio eich taith cyn cychwyn ac addasu eich dull gyrru i weddu i'r amodau i gyd yn helpu i leihau'r risgiau’r gaeaf hwn.
Diogelwch ar y Ffyrdd yn y GaeafGyrru mewn glaw trwm
Mae glaw trwm yn broblem gyffredin yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf, ac mae'n hawdd anghofio pa mor beryglus y gall gyrru mewn amodau gwlyb fod. Er mwyn sicrhau eich bod yn cadw'n ddiogel, mae'n bwysig paratoi ar gyfer yr heriau sy'n dod yn sgil tywydd gwlyb.
Gyrru mewn glaw trwm
Nid oes angen rhoi’r gorau i dreulio amser yn yr awyr agored yn ystod misoedd y gaeaf. Ar gyfer y misoedd oerach, gall pwll tân neu chiminea eich galluogi i ddal ati i fwynhau’r ardd ac maent yn berffaith os hoffech ddod â phobl rydych chi'n eu caru at ei gilydd i dostio malws melys neu greu'r amgylchedd iawn ar gyfer parti. Dilynwch ein hawgrymiadau diogelwch syml i gadw'n ddiogel y gaeaf hwn.
Defnyddio eich Pwll Tân yn ddiogelAwgrymiadau Diogelwch ar gyfer ChimineaDefnyddio llosgwyr gardd yn ddiogel Tanau Agored
Mae dathlu gwyliau crefyddol a'r flwyddyn newydd gyda'r defnydd o dân gwyllt, Llusernau Awyr neu Llusernau Tsieineaidd, a rhyddhau balŵns yn fwriadol, nid yn unig yn achosi perygl o ran tân ond hefyd yn creu sbwriel yng nghefn gwlad ac yn achosi peryglon difrifol i dda byw a bywyd gwyllt. Edrychwch ar y canllawiau isod am fwy o wybodaeth.
Diogelwch tân gwyllt
Defnyddio Llusernau Awyr/Tsieineaidd