Yn y DU caniateir gwerthu tân gwyllt i'r cyhoedd (Categorïau 1, 2 a 3 yn unig) yn ystod y pedwar cyfnod gwerthu allweddol:
- Ar ddiwrnod cyntaf Blwyddyn Newydd y Tsieineaid a'r tri diwrnod yn union cyn hynny
- Ar ddiwrnod Diwali a'r tri diwrnod yn union cyn hynny
- Yn ystod y cyfnod yn dechrau ar 15 Hydref ac yn dod i ben ar 10 Tachwedd
- Yn ystod y cyfnod yn dechrau ar 26 Rhagfyr ac yn dod i ben ar 31 Rhagfyr
Bydd yn rhaid i unrhyw un sy'n dymuno gwerthu tân gwyllt y tu allan i'r cyfnodau hyn wneud cais i'w Awdurdod Trwyddedu Lleol am drwydded gwerthu trwy'r flwyddyn. Ym mhob achos bron, bydd angen iddo fod yn ddeiliad trwydded storio ddilys hefyd. Dim ond i unigolion 18 oed neu'n hŷn y gellir gwerthu tân gwyllt. Mae 'sparklers' yn cael eu hystyried yn dân gwyllt ac mae'r un gyfraith yn gymwys.
Mae'n anghyfreithlon i bobl dan 18 oed feddu ar dân gwyllt mewn man cyhoeddus. Nid yw'n ofyniad cyfreithiol i gael unrhyw fath o drwydded i brynu tân gwyllt defnyddwyr.
Nid oes y fath beth â naill ai trwydded neu hyfforddiant sy'n rhoi'r hawl i aelod o'r cyhoedd brynu tân gwyllt (proffesiynol) Categori 4. Dim ond i gwmnïau tân gwyllt proffesiynol dilys sydd ag yswiriant a storfa drwyddedig trwy'r flwyddyn y mae'r rhain ar gael.
Mae'n rhaid i dân gwyllt defnyddwyr gydymffurfio â Safonau Prydeinig (BS 7114), ac mae'n rhaid iddynt gael eu cyfrif yn dân gwyllt Categori 2 (Gardd) neu Gategori 3 (arddangosfa) a bod â nod CE.
Mae cyfyngiad sŵn o 120 desibel ar yr holl dân gwyllt defnyddwyr.
Mae rhai eitemau wedi'u gwahardd yn y DU. Mae'r rhain yn cynnwys clecars, bomiau awyr a jac y jwmpwr, ni waeth a oes ganddynt nod CE a'u bod wedi'u cymeradwyo i'w gwerthu mewn gwledydd UE eraill ai peidio.
Peidiwch byth â phrynu tân gwyllt oddi wrth:
- gefn "fan gwyn"
- y "dyn yn y dafarn"
- o fannau didrwydded megis arwerthiannau cist car neu stondinau marchnad
- unrhyw un sy'n curo ar eich drws
Ni waeth faint o fargen y maent yn ymddangos, gallent fod wedi'u mewnforio'n anghyfreithlon a heb hyd yn oed gael y profion diogelwch mwyaf sylfaenol.