Diogelwch yr Haf



Cadw'n Ddiogel yr Haf Hwn!



Mae misoedd yr haf yma ynghyd â’r cyfle perffaith i fentro allan a mwynhau cefn gwlad neu draethau lleol. Yma yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru rydyn ni’n barod i roi ychydig o gyngor diogelwch hanfodol er mwyn sicrhau eich bod chi’n mwynhau’r haf yn ddiogel. P'un ai ydych chi wedi cynllunio gwyliau gartref, trip gwersylla neu ond yn gwneud y gorau o'r heulwen yn eich gardd gyda theulu a ffrindiau, mae gennym yr holl gyngor fydd ei angen arnoch i’ch cadw’n ddiogel!  





Doeth i Danau Gwyllt



Dylai pawb fod yn ymwybodol o’r risg uwch o danau gwyllt a thanau glaswelltir yr adeg yma o’r flwyddyn. Y ffordd orau o amddiffyn rhag colled, difrod neu anaf oherwydd tanau gwyllt a thanau glaswelltir yw atal. Dylai pobl ymddwyn yn gyfrifol, yn ddiogel, a dilyn y cod cefn gwlad bob amser.

Am Fwy o Wybodaeth

#DoethiDanauGwyllt



Mynd ar Wyliau



Ydych chi'n mynd ar wyliau yr haf hwn? Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dilyn ein cyngor ar gadw'n ddiogel ar eich gwyliau.

Am Fwy o Wybodaeth

Mynd i Ffwrdd





Llwybrau Dianc



Mae cael llwybrau dianc clir os bydd tân yn hanfodol i’ch diogelwch chi a'ch teulu. Gall datblygu cynllun dianc rhag tân a’i ymarfer yn rheolaidd olygu’r gwahaniaeth rhwng byw neu farw mewn argyfwng.

Y ffordd orau o ddianc o'ch eiddo yw defnyddio'r llwybrau arferol – mae'n bwysig eich bod chi’n gwneud yn siŵr bod yr holl landins, grisiau a choridorau sy'n arwain at y drysau blaen a chefn yn cael eu cadw'n glir o unrhyw beth a fyddai'n eich arafu, neu'n eich baglu os oeddech chi'n ceisio mynd allan ar frys.

Am Fwy o Wybodaeth

Diogelu Eich Cartref

Diogelwch Myfyrwyr



Heatwave Safety



Er bod llawer ohonom yn mwynhau'r tywydd poeth yn yr haf, hoffem atgoffa pobl o'r ffyrdd y gallan nhw gadw'n oer braf ac yn ddiogel tra’n parhau i fwynhau'r heulwen.

Ewch i'r Swyddfa Dywydd i gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf.

Am Fwy o Wybodaeth

Cyngor ar ddiogelwch mewn tywydd poeth





Diogelwch Dŵr



Yn ystod misoedd yr haf bydd y syniad o nofio mewn dyfroedd agored yn apelio at lawer o bobl, yn enwedig am fod y tywydd yn gynhesach. Rydyn ni am bwysleisio pwysigrwydd bod yn ymwybodol o'r peryglon posibl o nofio yn y môr yr adeg yma o'r flwyddyn ac rydyn ni’n annog pobl dim ond i fynd i mewn i'r dŵr mewn safleoedd lle mae achubwyr bywyd yn bresennol ac osgoi nofio mewn llynnoedd neu afonydd.     

Am Fwy o Wybodaeth

Nofio Dŵr Agored

Neidio i'r Dŵr

Alcohol a pheryglon dŵr



Diogelwch Gardd/Barbeciw



(Diogelwch Pyllau Tân, Chimineas a Llosgwyr)

Mae pawb wrth eu bodd â barbeciw yn ystod yr haf gyda'r nosweithiau hirach a'r tywydd cynhesach. P'un ai ydych chi yn yr ardd neu ar wyliau, dilynwch ein cyngor diogelwch i osgoi anafiadau, difrod i eiddo neu gefn gwlad pan fyddwch yn cael barbeciw.

Am Fwy o Wybodaeth

Diogelwch Barbeciw

Llosgyddion Gardd

Diogelwch Tân Chiminea

Diogelwch Tân Pwlltân





Diogelwch Cefn Gwlad



Mae tywydd cynhesach a'r cynnydd yn nifer y bobl sy'n ymweld â chefn gwlad yn creu mwy o risg o danau. Yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, mae gennym rai o'r golygfeydd godidog mwyaf amrywiol yn y wlad a hoffem eich helpu chi i'w cadw felly! Pan fyddwch chi ar grwydr dilynwch ein canllawiau syml i gadw eich hun a'n cefn gwlad yn ddiogel.

Am Fwy o Wybodaeth

Cerdded yng nghefn gwlad



Diogelwch ar y Ffyrdd



Ganol haf mae angen i ddefnyddwyr ffyrdd fod yn fwy ymwybodol nid yn unig o'r cynnydd mewn traffig ond gyrru ar ffyrdd sy'n anghyfarwydd.  Mae llawer o ffactorau y dylech eu hystyried wrth yrru dan unrhyw amodau neu amgylchiadau. Mae gennym gyngor diogelwch da a allai wneud eich gwibdeithiau yn ystod yr haf yn fwy hwylus.

Am Fwy o Wybodaeth

Gyrru Yn Yr Haf