Recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad

Mae youtube.com wedi'i rwystro oherwydd eich dewisiadau cwci cyfredol, gallwch newid y rheini trwy glicio ar y botwm cwci yn y gornel dde isaf ar unrhyw dudalen.



Ar hyn o bryd, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru’n recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym MHOB UN o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.



Ar draws canolbarth a gorllewin Cymru, mae 75% o’n Gorsafoedd Tân yn cael eu criwio’n gyfan gwbl gan Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad. Maen nhw'n amddiffyn ein trefi bach a'n cymunedau gwledig.

Yn debyg i’r System Ddyletswydd Llawn Amser, mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn ymateb i danau a Galwadau Gwasanaeth Arbennig megis gwrthrawiadau ar y ffyrdd, argyfyngau cemegol, achub anifeiliaid, llifogydd a mwy.  Mae hefyd gofyn iddynt hysbysu ac addysgu eu cymunedau lleol a chynnal ymweliadau Diogel ac Iach mewn cartrefi pobl.

Mae’n rhaid i Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad fyw neu weithio o fewn y gymuned leol ac maent yn hanu o bob cefndir.  Y rhain yw’r bobl sy’n gallu rhoi o’u hamser i gynorthwyo’r Gwasanaeth Tân ac Achub gan ennill cyflog ar yr un pryd.  Nid ydynt yn staffio'r gorsafoedd tân 24 awr y dydd fel diffoddwyr tân amser llawn.  Maen nhw'n cael gwybod am alwad frys trwy alwr personol, y maen nhw'n ei gario gyda nhw pan maen nhw ar ddyletswydd.  Mae gan rai o'n diffoddwyr tân ar alwad swyddi eraill gyda chytundeb gan eu cyflogwyr i adael i fynd i alwad frys os oes angen. Mae eraill ar gael y tu allan i oriau gwaith nodweddiadol fel gyda'r nos, ar benwythnosau neu rhwng rhediadau'r ysgol.



Mwy Na Dim Ond Tanau

Rôl Diffoddwr Tân yw nid yn unig ymladd tanau neu ymateb i argyfyngau eraill.  Mae Diffoddwyr Dân hefyd yn darparu cyngor diogelwch pwysig i ysgolion a chymunedau, gall hyn gynnwys cynnal Ymweliadau Diogelwch Tân ar gyfer cartrefi a busnesau.



Cefnogi'r Gwasanaeth Ambiwlans

Mae rhai o'n Gorsafoedd Tân hefyd yn cynnig cefnogaeth Cyd-Ymatebydd i'r Gwasanaeth Ambiwlans.  Mewn lleoliadau gwledig, gall Cyd-ymatebwyr fod yn gyntaf yn y fan a'r lle mewn argyfwng meddygol.  Mae hyn yn caniatáu i'n Diffoddwyr Tân hyfforddedig ddarparu gofal meddygol hanfodol ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans.



Ar Ionawr 1af, 2025, cyflwynodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru system bandiau argaeledd a chyflog newydd, sy'n cydnabod yr angen i gydbwyso gwaith a bywydau personol ac yn cynnig opsiynau mwy hyblyg i'r rhai sydd â diddordeb mewn dod yn Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad.

Mae'r system fandio newydd yn cynnwys yr opsiynau canlynol:

  • Band 5 - O leiaf 120 awr o argaeledd yr wythnos
  • Band 4 - o 91 awr yr wythnos hyd at ac yn cynnwys 119 awr
  • Band 3 - o 61 awr yr wythnos hyd at ac yn cynnwys 90 awr yr wythnos
  • Band 2 - 31 awr yr wythnos hyd at ac yn cynnwys 60 awr yr wythnos
  • Band 1 - Hyd at ac yn cynnwys 30 awr yr wythnos

Mae ein System Criwio Ar Alwad ar ei newydd wedd yn cynnig y canlynol:

  • Ymrwymiad hyblyg: Gallwch wasanaethu eich cymuned wrth gynnal swydd arall, ffordd o fyw neu gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
  • Iawndal: Enillwch arian am hyfforddiant, driliau a galwadau allan, ynghyd â thâl cadw blynyddol.
  • Datblygiad personol: Datblygwch sgiliau gwerthfawr mewn ymateb i argyfyngau a chael mynediad at hyfforddiant a thystysgrifau proffesiynol.
  • Dilyniant gyrfa: Gallai hwn fod yn gam cyntaf i chi yn eich gyrfa Diffodd Tân Amser Llawn neu rolau gwasanaethau brys eraill.

Nid yw diffodd tân yn debyg i unrhyw swydd arall, gall fod yn gyffrous, yn foddhaol ac yn anrhagweladwy.  Daw boddhad a pharch wrth ddarparu gwasanaeth hanfodol i'ch cymuned leol.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad, cwblhewch ein Ffurflen Mynegi Diddordeb a bydd aelod o’n Tîm Adnoddau Dynol yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

Ffurflen Mynegi Diddordeb