Gwiriad DBS Manylach



Fel rhan o'r sgrinio cyn cyflogaeth, mae gofyn i chi gwblhau Datgeliad Manylach hefyd i ddangos tystiolaeth nad oes gennych unrhyw euogfarnau troseddol heb eu disbyddu ar hyn o bryd, o dan Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974, nac unrhyw euogfarnau blaenorol a allai eich gwneud yn anaddas ar gyfer y rôl hon.

Er mwyn i'r cais hwn gael ei gwblhau, rhaid i chi gyflenwi tri math o brawf adnabod i'r Gwasanaeth, gan gynnwys:



Categori Un

Un ddogfen o Gategori Un, i wirio eich cyfeiriad presennol, a dylai fod dyddiad o fewn y tri mis diwethaf arni.

  • Bil Cyfleustodau
  • Cytundeb Rhentu/Morgais
  • Cyfriflen Banc


Categori Dau

Dwy ddogfen o Gategori Dau, a byddem yn ffafrio dogfen adnabod â llun:

  • Pasbort Dilys
  • Trwydded Yrru Ddilys
  • Tystysgrif Geni
  • Tystysgrif Priodas
  • Cerdyn Adnabod Cenedlaethol

Os llwyddwch i gyrraedd cam asesu hyder mewn dŵr a CPR y broses, bydd gofyn i chi ddod â’r dogfennau uchod gyda chi, er mwyn i’ch cais DBS gael ei brosesu ac i'ch gwiriad cerdyn adnabod gael ei gynnal.