Ar hyn o bryd mae gennym gyfleoedd ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn y gorsafoedd canlynol:
Rhanbarth y Gogledd
Ceredigion
Aberystwyth
Tregaron
Cei Newydd
Aberaeron
Llanbedr Pont Steffan
Aberteifi
Borth
Powys
Y Drenewydd
Machynlleth
Trefaldwyn
Y Trallwng
Llanfair Caereinion
Llanfyllin
Llanidloes
Trefyclo
Rhaeadr Gwy
Aberhonddu
Aber-craf
Crucywel
Llandrindod
Llanfair ym Muallt
Llanwrtyd
Y Gelli Gandryll
Llanandras
Talgarth
Rhanbarth y Gorllewin
Sir Gaerfyrddin
Llanelli
Caerfyrddin
Cydweli
Pont-iets
Rhydaman
Y Tymbl
Castellnewydd Emlyn
Llandysul
Llandeilo
Llanymddyfri
Hendy-gwyn
Sir Benfro
Hwlffordd
Aberdaugleddau
Abergwaun
Tyddewi
Arberth
Doc Penfro
Dinbych-y-Pysgod
Crymych
Ynys Bŷr
Rhanbarth y De
Neath Port Talbot
Glyn-nedd
Y Cymer
Blaendulais
Pontardawe
Dyffryn Aman
Abertawe
Tre Rheinallt
Barod i ymgeisio?
Llenwch ein ffurflen mynegi diddordeb os gwelwch yn dda a bydd aelod o'n Tîm Adnoddau Dynol mewn cysylltiad cyn gynted â phosibl.
Cais i Ddychwelyd i Gyflogaeth (Ar Alwad yn Unig)
Gellir cynnig yr opsiwn o "ddychwelyd i gyflogaeth" pan fydd gweithiwr wedi terfynu ei Gontract Ar Alwad â GTACGC, a hynny'n wirfoddol, ac yn gofyn am ddychwelyd i gyflogaeth o fewn pedair blynedd i'r diwrnod dyletswydd diwethaf sydd wedi'i gofnodi ar ei gyfer. Mae'r cyfleuster hwn ar gael i'r cyflogeion hynny sy'n dymuno dychwelyd i rôl diffoddwr tân, a'r cyflogeion hynny yn unig. Er bod personél a fu yn Rheolwyr Criw neu Reolwyr Gwylfa yn flaenorol yn gymwys i wneud cais, dim ond i rôl diffoddwr tân y gallant ddychwelyd.
Llenwch ein ffurflen dychwelyd i wasanaeth os gwelwch yn dda a bydd aelod o'n Tîm Adnoddau Dynol mewn cysylltiad cyn gynted â phosibl.
Ein Gweledigaeth ac Ymddygiadau
Gweledigaeth Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yw darparu’r gwasanaeth gorau posibl i gymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Mae Ymddygiadau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru’n amlinellu sut mae’r Gwasanaeth yn disgwyl i bob aelod o staff i:
- Fod yn Atebol
- Fod yn Barchus
- Fod yn Ddiduedd
- Fod yn Foesegol
- Ddangos Uniondeb
Bydd ymgeiswyr yn cael eu hasesu yn erbyn yr ymddygiadau hyn drwy gydol y broses recriwtio.
Diogelu
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, a disgwylir i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad DBS a geirdaon boddhaol.