11.11.2025

Cyngor Diogelwch Llifogydd gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

Yn dilyn cyfnod o lifogydd sylweddol ar draws yr ardal, mae criwiau o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) wedi bod yn eithriadol o brysur yn ymateb i ystod eang o ddigwyddiadau llifogydd.

Gan Rachel Kestin



Yn dilyn cyfnod o lifogydd sylweddol ar draws yr ardal, mae criwiau o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) wedi bod yn eithriadol o brysur yn ymateb i ystod eang o ddigwyddiadau llifogydd.

Mae'r Gwasanaeth yn annog pawb i barhau i fod yn wyliadwrus, cymryd camau rhagweithiol i amddiffyn eu hunain a'u heiddo, a helpu i leihau'r pwysau ar ymatebwyr brys.

O fewn ardal GTACGC, mae bron i 31,000 eiddo mewn perygl o lifogydd - gyda 24,000 mewn perygl o lifogydd afonydd a thros 7,000 mewn perygl o lifogydd llanw.

Yn ystod 4-5 Tachwedd, prosesodd gweithredwyr Canolfan Rheoli Tân ar y Cyd (JFC) GTACGC dros 450 o alwadau am ddigwyddiadau oedd yn gysylltiedig â llifogydd o fewn cyfnod o 12 awr, a chyhoeddwyd digwyddiad mawr yn Hendy-gwyn ar Daf wrth i griwiau achub 48 o bobl o adeiladau cartrefi ymddeol oedd dan lifogydd.

Rydym yn annog trigolion sy'n byw mewn ardaloedd sy'n dueddol o gael llifogydd i gymryd y rhagofalon canlynol:

  • Gwiriwch fod eich yswiriant cartref yn ddigonol ac yn gyfredol.
  • Cadwch stoc fach o fagiau tywod gwag a thywod – sydd ar gael o fasnachwyr adeiladu a siopau caledwedd, er mwyn gallu eu defnyddio i amddiffyn drysau a fentiau aer.
  • Crëwch becyn llifogydd - sy’n cynnwys tortsh, blancedi, dillad gwrth-ddŵr, esgidiau glaw, radio cludadwy sy'n cael ei bweru gan fatri, pecyn cymorth cyntaf, menig rwber a’ch dogfennau personol allweddol. (Cadwch y pecyn i fyny'r grisiau, os yn bosibl.)
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod y diweddaraf, gwrandewch ar orsafoedd radio lleol am fwletinau newyddion neu ffoniwch Floodline ar 0845 988 1188 am gyngor.
  • Cofrestrwch ar gyfer rhybuddion llifogydd: Ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru i dderbyn rhybuddion llifogydd rhad ac am ddim dros y ffôn neu e-bost.

Er y bydd cynghorau, y gwasanaethau brys a Chyfoeth Naturiol Cymru yn cynorthwyo lle bo hynny'n bosibl, unigolion sy'n bennaf gyfrifol am ddiogelu eu heiddo eu hunain. Os yw bywyd mewn perygl, ffoniwch 999 bob amser.

 

Dywedodd Rob Tovey, Rheolwr Diogelwch Dŵr GTACGC:



"Rydym yn cynghori'n gryf yn erbyn gwneud unrhyw deithiau yn ystod llifogydd. Os oes rhaid i chi deithio, byddwch yn ofalus iawn - peidiwch byth â gyrru i mewn i ddŵr llifogydd heb wybod pa mor ddwfn yw’r dŵr. Gall cerbydau arnofio mewn dim ond ychydig fodfeddi o ddŵr ac mewn dŵr sy'n llifo'n gyflym gellir eu hysgubo i ffwrdd yn hawdd. Gall dŵr hefyd achosi difrod trychinebus i gydrannau'r cerbyd, gan adael gyrwyr yn sownd.

"Rydym yn annog pobl yn gryf i beidio â cheisio croesi dŵr llifogydd ar droed, yn ogystal â'r risg o gael eu hysgubo i ffwrdd mae hefyd y risg o halogi gan garthffosiaeth, cemegau a deunyddiau biolegol eraill, yn ogystal â pheryglon nad oes modd eu gweld o dan ddŵr fel gorchuddion gwasanaethau wedi codi a phethau eraill a allai eich baglu neu ddal eich traed.

"Rydyn ni wedi gweld llawer o ffilmiau’n cylchredeg ar y cyfryngau cymdeithasol o bobl yn chwarae mewn dyfroedd llifogydd. Er y gall y fideos hyn ymddangos yn ddoniol, maent yn dangos ymddygiad hynod beryglus. Mae unigolion yn ddiarwybod yn rhoi eu hunain mewn perygl o anaf difrifol, salwch, neu hyd yn oed farwolaeth. Cadwch yn ddiogel a chadwch draw o ddŵr llifogydd."



I gael rhagor o gyngor diogelwch ynglŷn â llifogydd, ewch i'n gwefan – Cyngor ar Lifogydd ac i gael yr holl rybuddion a hysbysiadau llifogydd diweddaraf, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru

Erthygl Flaenorol