Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Mewn achosion o lifogydd, mae gennym ddyletswydd ble bod perygl i fywyd neu risg o dân. Yn aml, does dim llawer y medrwn ei wneud unwaith y byddwn wedi cwblhau’r gwaith achub. Pan fod adeilad dan ddŵr a bod y llifddwr yn dal i fod yn uchel tu allan, bydd y dŵr yn dod yn ôl i mewn yn syth wedi iddo gael ei bwmpio allan.
Awdurdodau Priffyrdd
Mewn achosion o lifogydd, maent yn gyfrifol am gadw’r ffyrdd a draeniad y ffyrdd yn glir. Fodd bynnag, gall rhai ffyrdd fod yn gyfrifoldeb i’r Asiantaeth Priffyrdd neu berchenogion preifat.
Gwasanaethau Cymdeithasol
Maent yn gyfrifol am ofalu am yr henoed, y methedig a phobl agored i niwed.
Cynghorau Dosbarth ac Unedol
Maent yn helpu i ailgartrefu pobl agored i niwed a wnaed yn ddigartref, ble nad oes ateb arall; casglu sbwriel; a chyngor i’r cyhoedd ar yfed dŵr a diogelwch bwyd.
Cwmnïau Dŵr
Maent yn gyfrifol am waredu a thrin dŵr gwastraff (carthion). Mae glaw anghyffredin o drwm, ar ffurf stormydd lleoledig difrifol gan amlaf, yn medru gorlethu systemau draenio ac achosi llifogydd, yn enwedig mewn ardaloedd isel. Yn yr amgylchiadau yma, gall carthion heb eu trin sarnu allan i’r strydoedd ac i erddi. Bydd y cwmnïau dŵr yn cynorthwyo ble bod hynny’n bosib, i gyfyngu’r dŵr sy’n dianc o’r system, a byddant yn tacluso’r ardaloedd ble mae carthion wedi sarnu, unwaith bydd y llifogydd wedi cilio.