27.11.2024

Digwyddiad: Achub Ceffyl yn Nrefach

Ddydd Sadwrn, Tachwedd 24ain, gwnaeth criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Rhydaman a’r Tymbl, yn ogystal â Thîm Achub Anifeiliaid arbenigol o Orsaf Dân Gorllewin Abertawe, fynychu digwyddiad i achub ceffyl ger Drefach yn Sir Gaerfyrddin.

Gan Steffan John



Ddydd Sadwrn, Tachwedd 24ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) o Orsafoedd Tân Rhydaman a’r Tymbl, yn ogystal â Thîm Achub Anifeiliaid arbenigol o Orsaf Dân Gorllewin Abertawe, eu galw i ddigwyddiad ger Drefach yn Sir Gaerfyrddin.

Ymatebodd criwiau i gynorthwyo ceffyl Heddlu Sbaen wedi ymddeol a oedd wedi llithro ar lawr concrid wrth gerdded i’w badog.  Nid oedd y march 26 oed oedrannus yn gallu sefyll i fyny eto heb gymorth criwiau GTACGC.  O fewn awr o gyrraedd, llwyddodd criwiau i ddefnyddio eu hyfforddiant a’u hoffer i ddod â’r ceffyl yn ôl i’w draed, a oedd yna’n pori’n hapus yn ei badog unwaith eto.







Gwnewch Wahaniaeth a Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad



Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf