09.01.2025

Digwyddiad: Achub Claf yn Llanelli

Ar Ŵyl San Steffan 2024, ymatebodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Llanelli a Gorseinon i ddigwyddiad ar Deras Parc Bigyn yn Llanelli.

Gan Steffan John



Ar Ŵyl San Steffan 2024, ymatebodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Llanelli a Gorseinon i ddigwyddiad ar Deras Parc Bigyn yn Llanelli.

Ymatebodd criwiau i glaf 82 mlwydd oed a oedd wedi cwympo yn eu cartref ac wedi torri ei glun.  Roedd angen cymorth meddygol brys ar y claf, ond oherwydd ei gyflwr meddygol, nid oedd yn bosibl eu cario i lawr grisiau’r eiddo.  Defnyddiodd y criwiau peiriant ysgol trofwrdd Gorsaf Dân Treforys i gludo’r claf yn ddiogel o ffenest ystafell wely ar y llawr cyntaf.  Yna rhoddwyd y claf yng ngofal parafeddygon Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (YGAC) a’i gludo i’r ysbyty mewn ambiwlans ar y ffordd.

Dangosodd y digwyddiad hwn sut y mae criwiau’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn defnyddio eu harbenigedd a’u hoffer arbenigol i achub claf mewn angen yn gyflym, yn ogystal â chydweithio gydag asiantaethau eraill.





Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf