06.08.2024

Digwyddiad: Achub Defaid yn Llanymddyfri

Ddydd Sadwrn, 3 Awst, cafodd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Llanymddyfri eu galw i ddigwyddiad yn Llanymddyfri.

Gan Steffan John



Am 5.29yp ddydd Sadwrn, 3 Awst, cafodd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Llanymddyfri eu galw i ddigwyddiad yn Llanymddyfri.

Ymatebodd aelodau'r criw i dri oen oedd wedi cyrraedd eu llawn dwf ac oedd yn sownd tua thri i bedwar metr y tu mewn i gwlfert.  Roedd y cwlfert yn mesur tua 2 droedfedd sgwâr yn y man culaf, ac yn rhedeg o dan ffordd. Nid anfonwyd unrhyw bersonél i mewn i'r cwlfert oherwydd y risg. 

Defnyddiodd aelodau'r criw ddau bolyn achub hir, un lein GP 30m ac un strop anifail.  Gyda chymorth y ffermwr, llwyddwyd i achub y tair dafad. Credir eu bod wedi bod yn sownd y tu mewn i'r cwlfert am tua dau i dri diwrnod.  Gadawodd y criw y safle am 8.38yp.







Allech chi fod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad?

Mae Llanymddyfri yn Orsaf Dân Ar Alwad, sy’n golygu bod ei Diffoddwyr Tân yn cael eu hysbysu am alwad frys trwy ddyfais alw bersonol, y maen nhw’n ei chario gyda nhw pan fyddant ar ddyletswydd.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Dysgwch fwy am sut i fod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad yma.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf