01.11.2024

Digwyddiad: Tân Agored yn Llanisan-yn-Rhos

Nos Iau, Hydref 31ain, cafodd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Aberdaugleddau ei galw i ddigwyddiad ger Bae Lindsway yn Llanisan-yn-Rhos, Sir Benfro.

Gan Steffan John



Am 10.11yb nos Iau, Hydref 31ain, cafodd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Aberdaugleddau ei galw i ddigwyddiad ger Bae Lindsway yn Llanisan-yn-Rhos, Sir Benfro.

Ymatebodd aelodau’r criw i dân agored ar draws tua 180 metr o wyneb clogwyn.  Defnyddiodd y criw un tancer dŵr, un pwmp cludadwy ysgafn, un chwistrell olwyn piben, un prif chwistrell, dau chwistrellwr cefn a system gyfnewid dŵr oherwydd cyfyngiadau hygyrchedd i ddiffodd y tân.  Gadawodd y criw am 1.49yb bore Gwener, Tachwedd 1af.

Achoswyd y tân gan dân gwyllt yn cael eu tanio ar hyd rhan o Lwybr Arfordir Cymru.

Mae’n anghyfreithlon tanio tân gwyllt, gan gynnwys ffyn gwreichion, mewn man cyhoeddus.  Byddai Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bob amser yn argymell bod pobl yn mynychu arddangosfa tân gwyllt wedi'i threfnu.

Mae clogwyni arfordirol yn gyforiog o fioamrywiaeth, ac yn anffodus mae lluniau o’r ardal y bore trannoeth (Tachwedd 1af) yn dangos y difrod a achoswyd i’r dirwedd.

Dewch o hyd i fwy o wybodaeth ar ddefnyddio tân gwyllt yn ddiogel yma.






Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf