03.09.2025

Digwyddiad: Tân Mewn Eiddo yn Hwlffordd

Ymatebodd Diffoddwyr Tân o Orsafoedd Tân Hwlffordd ac Aberdaugleddau i dân mewn eiddo ar Rodfa'r Priordy yn Hwlffordd ddydd Mawrth, Medi 2il.

Gan Steffan John



Am 11.01yb ddydd Mawrth, Medi 2il, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Hwlffordd ac Aberdaugleddau i ddigwyddiad yn Rhodfa'r Priordy yn Hwlffordd.

Ymatebodd y criwiau i dân mewn eiddo domestig deulawr a oedd yn mesur tua 9 metr wrth 8 metr.  Roedd y tân wedi’i gyfyngu i sbwriel yng ngofod cyfleustodau cyfagos yr eiddo.  Defnyddiodd y criwiau ddau set o offer anadlu, un chwistrell olwyn piben, un chwistrell gorchuddio ac un ffan awyru pwysedd positif i ddiffodd y tân.

Ar ôl diffodd y tân, ymwelodd y Diffoddwyr Tân ag eiddo cyfagos i ddarparu gwybodaeth a chyngor diogelwch tân yn y cartref.  Gadawodd y criwiau am 11.56yb.





Ymweliad Diogel ac Iach

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewn Cymru yn cynnig y cyfle i gael Ymweliad Diogel ac Iach am ddim yn eich cartref.

Mae ymweliad Diogel ac Iach yn cynnwys popeth sy’n rhan o'r Wiriad Diogelwch Tân yn y Cartref ond hefyd yn cynnwys negeseuon diogelwch eraill hefyd a all fod yn berthnasol i'r bobl sy'n byw yn yr eiddo.  Mae Ymweliad Diogel ac Iach yn cynnwys gosod a gwirio larymau mwg, nodi peryglon tân posibl a chyngor arbenigol ar gynlluniau dianc ac atal tân.

Diogelwch eich cartref a'ch anwyliaid ac archebwch Ymweliad Diogel ac Iach am ddim.  Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Erthygl Flaenorol