04.12.2024

Digwyddiad: Tân Mewn Tŷ yng Nghwmrhydyceirw

Ddydd Mawrth, Rhagfyr 3ydd, ymatebodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) o Orsafoedd Tân Treforys, Port Talbot, Canol Abertawe, Gorllewin Abertawe, Pontardawe a Chastell-nedd i dân mewn tŷ yng Nghwmrhydyceirw yn Abertawe.

Gan Steffan John



Am 6.29yp ddydd Mawrth, Rhagfyr 3ydd, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) o Orsafoedd Tân Treforys, Port Talbot, Canol Abertawe, Gorllewin Abertawe, Pontardawe a Chastell-nedd eu galw i ddigwyddiad yng Nghwmrhydyceirw yn Abertawe.

Ymatebodd criwiau i dân o fewn tŷ pâr deulawr yn mesur tua 25 metr wrth 15 metr.  Dechreuodd y tân mewn ystafell wely ar lawr cyntaf yr eiddo ac ymledodd i’r to ac i’r tŷ'r drws nesaf.  Defnyddiodd criwiau chwe set o offer anadlu, dwy chwistrell piben, dwy chwistrell 45mm a goleuadau i ddiffodd y tân.  Defnyddiodd criwiau hefyd offer trofwrdd fel tŵr dŵr ac i dynnu teils i ffwrdd o’r to, achoswyd difrod sylweddol i’r ddau eiddo.  Roedd pawb allan o’r tŷ.

Gadawodd y criwiau am 12.37yb ddydd Mercher, Rhagfyr 4ydd.

Diogelwch Tân yn y Cartref

Mae cael dealltwriaeth dda o ddiogelwch tân yn y cartref yn bwysig i’ch cadw chi a’ch teulu’n ddiogel, i atal tanau a sicrhau eich bod yn gwybod sut i ymateb yn gyflym mewn argyfwng.

GWYBODAETH DIOGELWCH Y CARTREF






Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf