09.01.2025

Diogelwch Rhag Tân Mewn Simnai

Ddydd Llun, Rhagfyr 16eg, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Llanelli a Phontiets eu galw i ddigwyddiad ar Heol Trimsaran yn Llanelli.

Gan Steffan John



Am 4.42yp ddydd Llun, Rhagfyr 16eg, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Llanelli a Phontiets eu galw i ddigwyddiad ar Heol Trimsaran yn Llanelli.

Ymatebodd y criwiau i dân oedd wedi’i gyfyngu i simnai eiddo domestig deulawr.  Defnyddiodd y criwiau un chwistrell olwyn piben, un ysgol, rhodenni simnai a golau i ddiffodd y tân.  Ar ôl diffodd y tân, cynhaliodd y Diffoddwyr Tân Archwiliad Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref o’r eiddo a gosod larymau mwg newydd.

Gadawodd y criwiau am 7.27yh cyn ail-ymweld â’r eiddo am 9.30yh i ail-arolygu ffliw’r simnai gyda chamerâu delweddu thermol, ond ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw fannau poeth.



Ymweliad Diogel ac Iach

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cynnig Gwasanaeth Ymweliad Diogel ac Iach AM DDIM.

Yn ogystal â gosod larymau newydd a phrofi larymau, mae’r ymweliadau hyn yn darparu cyngor diogelwch amhrisiadwy ar bynciau sy’n cynnwys diogelwch yn y cartref, atal cwympo ac ymwybyddiaeth o sgamiau.

I archebu ymweliad Diogel ac Iach am ddim, ffoniwch 0800 169 1234 neu cwblhewch ein ffurflen ar-lein yma.



Diogelwch Tân Simnai

Gellir atal y mwyafrif o danau simnai. Mae archwilio a glanhau ffliwiau simnai yn gyson yn helpu i atal tanau yn y simnai.

Mae ysgubo a chynnal a chadw cyson nid yn unig yn lleihau'r tebygolrwydd o dân simnai, ond gall hefyd osgoi croniad peryglus o nwy carbon monocsid. Mae Carbon Monocsid yn nwy hynod o wenwynig sydd heb unrhyw liw, blas nac arogl.  Gall offer llosgi tanwydd fel stofiau, tanau, boeleri a gwresogyddion dŵr gynhyrchu carbon monocsid os ydyn nhw wedi'u gosod yn anghywir, wedi’u trwsio'n wael neu mewn cyflwr gwael, neu os yw ffliwiau, simneiau neu fentiau wedi’u rhwystro.

Mae larymau mwg a charbon monocsid sy'n cael eu cynnal a’u cadw ac yn gweithio'n iawn yn achub bywydau.

Mae mwy o wybodaeth am ddiogelwch tân simnai ar gael ar yma.



Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf