Cynhaliwyd seremoni wobrwyo gwasanaeth hir yn ddiweddar yng Ngorsaf Dân Talgarth, i gydnabod a dathlu ymrwymiad ac ymroddiad rhyfeddol Diffoddwyr Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC).
Cyflwynwyd tystysgrifau gwasanaeth hir i'r Rheolwr Gwylfa Steven Daniel o Orsaf Dân Abercraf, y Rheolwr Gwylfa Bryan Davies o Orsaf Dân Talgarth, y Rheolwr Gwylfa Mark Hughes o Orsaf Dân Llandrindod a'r Rheolwr Gwylfa Nigel Perkins o Orsaf Dân Aberhonddu yn y digwyddiad gan Uchel Siryf Powys sy'n ymddeol, yr Arglwyddes Kathryn Silk JP.
Yn ymuno â’r criw yng Ngorsaf Dân Talgarth ac yn dathlu cyflawniadau aelodau’r criw roedd Maer Talgarth, y Cynghorydd Louise Elston-Reeves, Prif Swyddog Tân GTACGC, Roger Thomas KFSM a’r Rheolwr Grŵp Steve Rowlands, Pennaeth Rhanbarth y Gogledd GTACGC.
Llun gan Ann Seymour Photography.