Ddydd Mawrth, Awst 6ed, bu aelodau’r criw o Orsaf Dân Canol Abertawe yn cymryd rhan y neu Hyfforddiant Achub Dŵr blynyddol, a gynhaliwyd yn Aber Llwchwr.
Roedd hyfforddiant eleni yn canolbwyntio’n benodol ar achub cleifion o fwd, gydag amrywiaeth o sefyllfaoedd brys yn cael eu hefelychu fel rhan o’r ymarfer. Roedd y sesiwn hyfforddi yn caniatáu i aelodau’r criw ddatblygu eu sgiliau arbenigol i achub cleifion o amgylcheddau peryglus yn ddiogel, a oedd yn cynnwys cael pen ffordd ar dir ansefydlog, defnyddio amrywiaeth o offer megis rhaffau, pwlïau a dyfeisiau arnofio, a chynnal achub o ddŵr yn gyflym.
Yn ystod y sesiwn hyfforddiant, roedd yna bwyslais ar weithio fel tîm, ymwybyddiaeth sefyllfaol a gwneud penderfyniadau cyflym i sicrhau diogelwch aelodau’r criw a chleifion.