27.02.2026

Noson Agored a Sesiwn Hyfforddi Cymorth Cyntaf Am Ddim yng Ngorsaf Dân Y Gelli Gandryll

Bydd Gorsaf Dân Y Gelli Gandryll Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn croesawu’r gymuned ddydd Llun, Mawrth 16eg ar gyfer noson agored a sesiwn hyfforddi Cymorth Cyntaf am ddim.

Gan Steffan John



Bydd Gorsaf Dân Y Gelli Gandryll Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn croesawu’r gymuned ddydd Llun, Mawrth 16eg ar gyfer noson agored a sesiwn hyfforddi Cymorth Cyntaf am ddim.

Bydd y noson agored yn cynnig cyfle i drigolion archwilio'r Orsaf Dân, dysgu mwy am waith y criw o Ddiffoddwyr Tân, cyfleoedd recriwtio o fewn GTACGC a dysgu sgiliau Cymorth Cyntaf ymarferol, gan gynnwys sut i ddefnyddio pecyn rheoli gwaedu mynediad cyhoeddus, a allai wneud gwahaniaeth achub bywyd mewn argyfwng.

Yn ogystal â’r hyfforddiant, bydd cyfle i ymwelwyr sydd â diddordeb mewn dod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad, neu ddysgu am rolau eraill o fewn GTACGC, siarad yn uniongyrchol ag aelodau'r criw am recriwtio, llwybrau hyfforddi a pha ymrwymiad sydd ei angen ar gyfer y rôl.  Nod y digwyddiad yw annog mwy o bobl i ystyried ymuno â'r tîm a chefnogi diogelwch a chydnerthedd y gymuned leol.

Mae croeso i bawb a does dim angen unrhyw brofiad blaenorol.

Manylion y Digwyddiad: 6.30-8.30yh, ddydd Llun, Mawrth 16eg

Lleoliad: Gorsaf Dân Y Gelli Gandryll, Heol Aberhonddu, Y Gelli Gandryll, Powys, HR3 5DY




Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol