Mae Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn annog pobl i gymryd mwy o ofal a lleihau’r risg o danau trydanol yn eu cartrefi y gaeaf hwn.
Oherwydd bod y tywydd yn oerach a chostau byw yn parhau i godi, mae llawer o bobl yn chwilio am ffyrdd amgen o wresogi a phweru eu cartrefi. Wrth i fwy o gartrefi ddibynnu ar wresogyddion trydan, stofiau llosgi coed a dyfeisiau y mae modd eu hailwefru, ni fu atal tân erioed mor bwysig. Er bod arbed arian yn gallu bod yn flaenoriaeth, ni ddylid peryglu diogelwch.
Gall pobl leihau'r risg o danau trydanol yn sylweddol drwy ddilyn y camau allweddol hyn:
- Defnyddiwch yr holl offer yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr.
- Cadwch offer yn lân, mewn cyflwr da a'u gwasanaethu'n rheolaidd.
- Peidiwch â phrynu nwyddau trydanol ffug, efallai na fydd y rhain yn bodloni safonau diogelwch.
- Diffoddwch a datgysylltwch offer cyn mynd allan neu fynd i'r gwely (ac eithrio'r rhai sydd wedi'u cynllunio i aros ymlaen, fel oergelloedd a rhewgelloedd).
- Peidiwch â defnyddio peiriannau golchi dillad, peiriannau sychu dillad neu beiriannau golchi llestri dros nos neu pan fyddwch chi allan o'r cartref.
- Gwnewch yn siŵr bod peiriannau sychu dillad wedi'u hawyru'n dda a glanhewch yr hidlydd ar ôl eu defnyddio bob tro.
- Peidiwch â gwefru ffonau neu ddyfeisiau dros nos neu ar ddodrefn meddal.
- Gwiriwch socedi’n rheolaidd; rhowch orau i’w defnyddio ar unwaith os ydyn nhw'n boeth neu'n dangos olion llosgi, a chysylltwch â thrydanwr cofrestredig i archwilio a oes angen eu hatgyweirio neu eu newid.
- Defnyddiwch wresogyddion cludadwy yn ddiogel, cadwch nhw i ffwrdd o ddillad bob amser a pheidiwch byth â'u gadael heb neb i ofalu amdanynt.
- Gwiriwch flancedi trydan o ran traul. Newidiwch unrhyw flancedi dros bum mlwydd oed gan fanwerthwr cymeradwy a'u storio'n ofalus.
- Defnyddiwch geblau estyniad â nifer o socedi yn hytrach nag addaswyr bloc a pheidiwch â gorlwytho (dim mwy na 13 amp/3000 watt). Peidiwch byth â phlygio addaswyr i mewn i addaswyr eraill.
Os ydych chi’n poeni am offer yn eich cartref, defnyddiwch wiriwr cynnyrch ar-lein Electrical Safety First i weld a yw wedi’i adalw.
Cofrestrwch eich offer
Mae preswylwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio'r gwasanaeth Cofrestru Fy Offer am ddim, sy'n hysbysu defnyddwyr am atgyweiriadau diogelwch neu adalw cynnyrch. Nid oes angen prawf prynu, gan ei wneud yn addas ar gyfer eitemau ail-law neu anrhegion. Mae cadw offer mewn cyflwr da yn eu helpu i bara'n hirach, yn lleihau costau ac yn cadw cartrefi’n ddiogel.
Dywedodd y Rheolwr Diogelwch Tân yn y Cartref, Gareth Hands: