24.07.2025

Y Groes Goch Brydeinig yn Cynorthwyo Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn Ystod Argyfyngau

Mae'r Groes Goch Brydeinig a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu cymorth i bobl ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru y mae argyfyngau yn effeithio arnynt.

Gan Steffan John




Mae'r Groes Goch Brydeinig a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu cymorth i bobl ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru y mae argyfyngau yn effeithio arnynt.

Ers dros 150 mlynedd, mae'r Groes Goch Brydeinig wedi bod yn helpu miliynau o bobl yn y DU a ledled y byd i gael y cymorth sydd ei angen arnynt pan fydd argyfwng yn taro, tra mai GTACGC yw trydydd Gwasanaeth Tân ac Achub mwyaf y DU ac mae'n amddiffyn poblogaeth o dros 930,000 o bobl.  Yn ystod 2023-2024, ymatebodd GTACGC i dros 2,500 o ddigwyddiadau yn ymwneud â thân. 

Trwy'r bartneriaeth arloesol hon, bydd gwirfoddolwyr y Groes Goch Brydeinig, ar gais y Gwasanaeth Tân ac Achub, ar gael i helpu gyda galwadau ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru, gan ddarparu cymorth emosiynol ac ymarferol i bobl y mae argyfyngau yn effeithio arnynt.

Mae'r tîm Ymateb Brys, sydd wedi cael hyfforddiant dwys, yn cynnwys gwirfoddolwyr o'r Groes Goch Brydeinig sy'n rhoi’n hael o’u hamser, gan ymateb i ddigwyddiadau 365 diwrnod y flwyddyn, 24 awr y dydd. Maent yn gallu bod yn bresennol mewn gwahanol fathau o ddigwyddiadau brys i gefnogi pobl sydd mewn argyfwng, fel tanau mewn anheddau, llifogydd neu ddigwyddiadau ar raddfa fawr. Mae'r cerbyd maen nhw'n ei ddefnyddio wedi'i addasu'n arbennig ar gyfer argyfyngau, ac wedi'i stocio ag eitemau ymarferol y gallai fod eu hangen ar bobl, fel dillad, blancedi a phecynnau hylendid.



Wrth siarad am y cynllun peilot, dywedodd Craig Flannery, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol GTACGC:

"Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda'r Groes Goch Brydeinig i roi rhagor o gefnogaeth i aelodau'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu.  Bydd y bartneriaeth hon yn ein galluogi i sicrhau bod gan unigolion y mae digwyddiadau yn effeithio arnynt yr adnoddau a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i adfer ac ailadeiladu.

Mae llawer o'r digwyddiadau rydyn ni'n ymateb iddynt yn aml yn gallu cael effeithiau mawr a hirdymor ar fywydau'r rhai sy'n gysylltiedig â hwy.  Gyda'r ddau sefydliad yn gweithio ochr yn ochr mewn digwyddiadau, bydd y gefnogaeth ymarferol ac emosiynol sy'n cael ei darparu yn amhrisiadwy."



Dywedodd Henry Barnes, Rheolwr Ymateb Brys y Groes Goch Brydeinig yng Nghymru:

"Mae'r Groes Goch Brydeinig yn barod i helpu pobl Canolbarth a Gorllewin Cymru. Edrychwn ymlaen at weithio ochr yn ochr â'r Gwasanaethau Tân ac Achub i ehangu ein cefnogaeth yn ystod argyfyngau, gan sicrhau bod cefnogaeth ar gyfer anghenion ymarferol ac emosiynol pobl ar gael pryd bynnag a ble bynnag y bydd argyfyngau'n taro."




O'r chwith i'r dde: Pennaeth Ymateb Gweithredol GTACGC Ashley Hopkins, Rheolwr Gweithrediadau Ymateb Brys y Groes Goch Brydeinig ar gyfer Cymru Laurie Wynne, Arweinydd Cydnerthedd Cymunedol y Groes Goch Brydeinig yn y DU Henry Barnes, Prif Swyddog Tân GTACGC Roger Thomas a Phennaeth Corfforaethol Hyfforddiant a Datblygu Geraint Thomas.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf