03.09.2024

Ystafell Lles Newydd yng Ngorsaf Dân Treforys

Mae Gorsaf Dân Treforys wedi cyhoeddi agor ei Hystafell Lles newydd, man tawel sydd wedi'i gynllunio fel lle i aelodau'r criw fyfyrio, ymlacio a chasglu eu meddyliau ar ôl dychwelyd o ddigwyddiadau.

Gan Rachel Kestin



Mae Gorsaf Dân Treforys wedi cyhoeddi agor ei Hystafell Lles newydd, man tawel sydd wedi'i gynllunio fel lle i aelodau'r criw fyfyrio, ymlacio a chasglu eu meddyliau ar ôl dychwelyd o ddigwyddiadau.

Mae'r fenter hon, a gafodd ei lansio ym mis Ebrill i gyd-fynd â Mis Ymwybyddiaeth Straen, yn tanlinellu ymrwymiad yr orsaf i iechyd meddwl a lles ei phersonél.

Mae'r Ystafell Lles hefyd yn darparu ardal dawel i orffwys a darllen i bersonél Ar Alwad Treforys, sy'n aml yn ymuno â'r gwylfeydd amser cyflawn ar fyr rybudd i sicrhau bod offer ar gael tra bod offer arbenigol yn cael eu defnyddio mewn digwyddiadau. Roedd yn ymdrech gan y tîm cyfan, ond diolch ychwanegol i'r Rheolwr Gwylfa, Jonathan Short, am ei gymorth creadigol gyda'r prosiect.

Dywedodd Anthony Mathias, Pennaeth Gorsaf Dân Treforys:

 

"Rwy'n falch iawn o gyhoeddi lansiad yr Ystafell Lles yng ngorsaf Treforys. Mae'r ystafell wedi'i chreu gyda lles y criw mewn golwg a bydd yn rhoi man tawel i bersonél ymlacio a chasglu eu meddyliau pan fo angen. Rydym yn ymwybodol o'r amgylchiadau trawmatig ac anodd, weithiau, y mae criwiau rheng flaen yr ochr weithredol yn eu hwynebu, ac rwy'n gobeithio y bydd yr ystafell lles hon yn chwarae rhan fach ond ystyrlon wrth gefnogi eu hiechyd meddwl a'u lles."



Da iawn i bawb a gymerodd ran yn y prosiect hwn.  Gobeithio y bydd yr Ystafell Lles yn rhoi blynyddoedd lawer o gefnogaeth i'r holl griwiau yn Nhreforys.




Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf