Rydym yn croesawu adborth am ein gwasanaeth.
- Mae canmoliaeth yn ein helpu i gydnabod gwaith da a rhannu adborth cadarnhaol gyda'n staff
- Mae sylwadau yn ein helpu i wella a datblygu'r hyn a wnawn
- Mae cwynion yn ein helpu i ddeall pan nad yw pethau wedi bodloni disgwyliadau
Os ydych chi'n anfodlon ag unrhyw agwedd ar ein gwasanaeth, rydym yn eich annog i gysylltu â ni trwy ein proses ffurfiol.
Ein nod yw:
- Ymchwilio i gwynion yn deg ac yn llawn
- Delio â nhw cyn gynted â phosibl
- Gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu trin yn gwrtais ac yn broffesiynol
Yn aml, gellir datrys pryderon yn gyflym, ond lle bo angen byddwn yn cynnal ymchwiliad llawn.
Gallwch ddod o hyd i fanylion llawn am sut i roi adborth neu wneud cwyn yma: Canmoliaeth, Sylwadau a Chwynion