Mae pob gorsaf ar draws Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) wedi'u dynodi’n Hafanau Diogel, gan ddarparu man diogel i aelodau'r cyhoedd sy'n teimlo mewn perygl, dan fygythiad neu wedi’u dychryn.
Gall unrhyw un sy'n teimlo eu bod mewn perygl uniongyrchol neu’n agored i niwed fynd i’w gorsaf agosaf, lle mae ein staff wedi'u hyfforddi ac yn barod i roi cymorth.
Mae staff GTACGC yma i gefnogi unigolion a chymunedau mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd ac yn gweithio'n agos gydag asiantaethau partner, gan gynnwys Byw Heb Ofn, Heddlu Dyfed-Powys a Heddlu De Cymru, er mwyn sicrhau ymateb cyflym a phriodol pan fo angen.