Mae casgliad o ‘tedis trawma’ wedi’u gwau â llaw wedi’u rhoi i Orsaf Dân Port Talbot yn ddiweddar.
Ddydd Mercher, Medi 3ydd, ymwelodd Stephanie Houghton a'i mam â Gorsaf Dân Port Talbot i gwrdd â'r criw a rhoi'r 30 tedis a gwnaed gan law.
Bydd y tedis, sy’n cael eu hadnabod fel Tedis Trawma, yn cael eu cadw ar injans tân a’u rhoi i blant a phobl ifanc mewn digwyddiadau mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn eu mynychu. Yn aml, gall y digwyddiadau hyn fod yn llethol a brawychus, ac yn brofiadau anghyfarwydd, a’r gobaith yw y bydd y tedis a ddosbarthir gan griwiau GTACGC yn dod â rhywfaint o gysur i’r plant a’r bobl ifanc, ac yn lleddfu unrhyw drallod lle bo modd.
Mae criwiau o bob cwr o ardal gwasanaeth GTACGC yn aml yn derbyn rhoddion o Dedis Trawma, sy'n un enghraifft o'r gefnogaeth barhaus y mae GTACGC yn ei derbyn gan y cymunedau y mae'n eu gwasanaethu.
Mae GTACGC yn ddiolchgar iawn am y rhodd hael o dedis gan Stephanie a’i mam.