Diogelwch Tân i'r Henoed



Cyngor gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i sicrhau bod pobl hŷn yn ddiogel rhag tân yn eu cartrefi.

Dyma 10 o gynghorion gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, i sicrhau bod pobl hŷn yn ddiogel rhag tân yn eu cartrefi:

  • Gosodwch larwm mwg a’i gynnal a’i gadw – dylai fod gennych larwm mwg ar bob lefel yn eich cartref. Y lleoliad delfrydol yw ar y nenfwd, yng nghanol ystafell, neu yn y cyntedd neu ar ben y grisiau. Peidiwch â lleoli larymau yn, neu gerllaw’r gegin neu’r ystafell ymolchi, ble mae mwg neu anwedd yn medru eu hactifadu trwy ddamwain.
  • Profwch y larwm unwaith yr wythnos. Gall larwm mwg sy’n gweithio roi amser gwerthfawr i chi i fynd allan, i aros allan ac i ddeialu 999.
  • Peidiwch â thynnu’r batri allan. Os yw eich larwm mwg yn canu drwy’r amser trwy ddamwain tra eich bod yn coginio, peidiwch â thynnu’r batri allan. Yn hytrach, symudwch y larwm neu newidiwch ef i larwm sydd â botwm tawelu.
  • Arhoswch yn ddiogel yn y gegin. Dyma’r ardal ble mae mwyafrif y tanau yn y cartref yn cychwyn, felly peidiwch byth â gadael bwyd i goginio heb neb i gadw llygad arno. Os oes yn rhaid i chi adael y gegin, diffoddwch unrhyw offer trydanol a thynnwch y sosbenni oddi ar y gwres.
  •  Os oes tân yn amlygu ‘Ewch allan, arhoswch allan a galwch 999!’ Peidiwch ag oedi i gasglu pethau gwerthfawr, peidiwch â mynd i ymchwilio neu i geisio taclu’r tân. Defnyddiwch ffôn symudol, ffôn cymydog neu flwch ffôn i alw 999. Os oes angen achub rhywun, arhoswch yn ddiogel tu allan i’r diffoddwyr tân, sydd â’r offer ac sydd wedi eu hyfforddi i wneud y gwaith.  Peidiwch byth â mynd yn ôl i mewn.
  • Peidiwch â gorlwytho socedi trydan. Un plwg fesul soced yw’r rheol, ond byddwch yn ofalus nad ydych yn gadael i lidiau i lusgo dros y popty neu i gyffwrdd â dŵr.
  • Byddwch yn gall gyda’ch allweddi. Dylid cadw allweddi’r ffenestri a’r drysau mewn lle hygyrch, ble gall pawb ddod o hyd iddynt, fel y medrwch ddianc yn gyflym os oes tân.
  • Cynlluniwch eich llwybr dianc. Gofalwch eich bod chi a’ch teulu’n ymwybodol o’r ffordd gyflymaf allan os oes tân. Ystyriwch lwybr arall rhag ofn bod eich llwybr arferol wedi’i flocio.
  • Cadwch ganhwyllau mewn dalwyr diogel, ar arwyneb nad sy’n llosgi ac yn ddigon pell oddi wrth unrhyw ddefnyddiau a allai losgi, megis y llenni.
  • Gofalwch eich bod yn diffodd blancedi trydan ac yna’n eu storio’n wastad (nid eu rholio) pan nad ydynt mewn defnydd. Peidiwch byth â’u defnyddio gyda photel dŵr poeth. Dengys yr ystadegau bod gan danau a achoswyd gan offer trydanol a blancedi trydan y gyfradd uchaf o anafiadau, gyda 440 ar gyfer pob 1,000 o danau.