Mae asesiad lles yn rhywbeth y mae'n rhaid i bob Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghymru ei gyhoeddi fel rhan o Ddeddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'n ein helpu i ddeall sut olwg sydd ar les ym Mhowys nawr a beth allai fod angen ei newid yn y dyfodol.
Mae'r asesiad yn edrych ar les ar draws pedair thema:
Fel Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, rydym wedi cydweithio i gasglu data o amrywiaeth o ffynonellau, wedi cynnal arolwg Byw ym Mhowys ac wedi defnyddio ffynonellau ymgysylltu eraill i gael dealltwriaeth dda o anghenion lles pobl ledled y sir.
Mae'r holl wybodaeth hon wedi arwain at asesiad manwl a chynhwysfawr o les ym Mhowys.
Fodd bynnag, mae angen eich barn arnom i ddeall beth mae lles yn ei olygu i chi, beth sy'n bwysicaf yn eich bywyd bob dydd, a beth rydych chi'n ei ystyried yn bwysig ar gyfer eich lles nawr ac yn y dyfodol.
Diolchwn i chi ymlaen llaw am gymryd yr amser i gwblhau'r arolwg byr hwn. Nid oes atebion cywir nac anghywir, ac ni fyddant yn cael eu rhannu ag unrhyw un arall.
Dweud eich dweud
Gallwch adael eich adborth ar-lein drwy ein harolwg isod drwy glicio botwm 'CWBLHAU'R FFURFLEN'.
Mae copïau papur o'r arolwg ar gael i'w lawrlwytho neu gellir eu casglu o'ch llyfrgell leol. Dychwelwch ffurflenni wedi'u llenwi at staff y llyfrgell, neu sganiwch a'u hanfon drwy e-bost at haveyoursay@powys.gov.uk(Dolen allanol)(Dolen allanol).
Rhanna dy syniadau erbyn dydd Mercher 30 Medi.