19.11.2026

Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn Dathlu 30 mlynedd o wasanaeth yn Seremoni Y Tu Hwnt i’r Galw

Nododd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) garreg filltir bwysig wrth i gydweithwyr, cyn-aelodau o’r gwasanaeth, partneriaid, noddwyr a gwesteion ddod ynghyd yn Neuadd Brangwyn, Abertawe, ar gyfer ei ddigwyddiad ‘Y Tu Hwnt i’r Galw’: 30 Mlynedd Gyda'n Gilydd, seremoni gydnabod i ddathlu 30 mlynedd o wasanaeth i gymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Gan Rachel Kestin



Nododd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) garreg filltir bwysig wrth i gydweithwyr, cyn-aelodau o’r gwasanaeth, partneriaid, noddwyr a gwesteion ddod ynghyd yn Neuadd Brangwyn, Abertawe, ar gyfer ei ddigwyddiad ‘Y Tu Hwnt i’r Galw’: 30 Mlynedd Gyda'n Gilydd, seremoni gydnabod i ddathlu 30 mlynedd o wasanaeth i gymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Roedd y digwyddiad yn myfyrio ar dri degawd o ymroddiad, dewrder ac ymrwymiad ers i'r Gwasanaeth gael ei ffurfio yn 1996 drwy uno cyn-Frigadau Tân Dyfed, Powys a Gorllewin Morgannwg. Roedd yn rhoi cyfle i ddathlu'r bobl, y timau a'r partneriaid y mae eu cyfraniadau wedi helpu i lunio hanes balch y Gwasanaeth ac yn parhau i gefnogi ei uchelgeisiau at y dyfodol.

Y ddarlledwraig a'r anturiaethwraig o Gymru Lowri Morgan oedd yn llywio’r noson i gydnabod rhagoriaeth ar draws pob rhan o'r Gwasanaeth, o ymateb i argyfyngau, atal a diogelu i weithrediadau’r ystafell reoli a gwasanaethau proffesiynol. Clywodd gwesteion hefyd sut mae'r sefydliad yn parhau i esblygu drwy ei Fframwaith CHOICE, gan sicrhau ei fod yn parhau i ganolbwyntio ar ddiwallu anghenion newidiol cymunedau ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Drwy gydol y noson, rhoddwyd cydnabyddiaeth i unigolion, timau, gorsafoedd ac adrannau y mae eu hymdrechion yn mynd y tu hwnt i alwad dyletswydd.

Ymhlith y rhai a gafodd gydnabyddiaeth roedd cydweithwyr sy'n gweithio ym maes Diogelwch Cymunedol, Diogelwch Tân Busnesau, Rheoli Tân ar y Cyd, timau Ymateb Meddygol a Chyd-ymatebwyr, Chwilio ac Achub Trefol, a Diffoddwyr Tân Ar Alwad, ynghyd â llawer o'r timau gwasanaethau proffesiynol y mae eu gwaith yn sail i weithrediadau rheng flaen bob dydd.

Rhoddwyd cydnabyddiaeth arbennig hefyd i sawl unigolyn y mae eu hymroddiad a'u hymrwymiad wedi cael effaith barhaol ar y Gwasanaeth a'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu.



Dywedodd y Prif Swyddog Tân Craig Flannery:

"Roedd Y Tu Hwnt i’r Galw yn gyfle i gydnabod y bobl anhygoel sydd wedi helpu i lunio Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru dros y 30 mlynedd diwethaf.

Mae pob llwyddiant rydyn ni wedi'i gyflawni fel sefydliad wedi'i seilio ar ymroddiad, proffesiynoldeb ac ymrwymiad ein pobl. O ddiffoddwyr tân a gweithredwyr yr ystafell reoli i gydweithwyr ym maes atal, diogelu a gwasanaethau proffesiynol, mae pob unigolyn wedi chwarae ei ran wrth ddiogelu ein cymunedau a chefnogi ei gilydd.

Rhoddodd y noson gyfle inni fyfyrio ar ein hanes, dathlu'r presennol ac edrych ymlaen yn hyderus tuag at y dyfodol. Yn bwysicaf oll, fe ganiataodd i ni ddweud diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y Gwasanaeth dros y tri degawd diwethaf."



Y tu hwnt i gydnabod rhagoriaeth ar draws y Gwasanaeth, cododd y noson arian gwerthfawr ar gyfer elusen hefyd. Cododd raffl a gynhaliwyd yn ystod y digwyddiad £764 i Elusen y Diffoddwyr Tân, tra cyflwynwyd rhodd arall o £515 gan y Tractor Boys of Aberthin drwy Barti Lliw'r Gwasanaeth, gan godi'r cyfanswm a godwyd ar y noson i £1,279. Bydd yr arian yn helpu i gefnogi gwaith hanfodol Elusen y Diffoddwyr Tân, sy'n rhoi cefnogaeth gydol oes i ddiffoddwyr tân, personél tân a'u teuluoedd.

Hoffai GTACGC ddiolch yn ddiffuant i'r sefydliadau y gwnaeth eu nawdd a'u cefnogaeth hael helpu i wneud y digwyddiad yn bosibl. Roedd eu cyfraniadau nid yn unig yn galluogi'r Gwasanaeth i ddathlu tri degawd o gyflawniad ond hefyd wedi helpu i greu noson a gododd arian pwysig ar gyfer elusen tra'n cydnabod ymdrechion eithriadol cydweithwyr, timau a phartneriaid o bob rhan o'r sefydliad. Ymhlith y noddwyr roedd VWV Solicitors, PBI Performance Products, Hunter Apparel, Dräger, King Site Services, CBD Roofing, Tetra Tech a West Coast Doors.




Hoffai'r Gwasanaeth hefyd ddiolch i'r tîm yn Neuadd Brangwyn, cyflenwyr y digwyddiad a phawb a fu’n gweithio y tu ôl i'r llenni i gyflwyno'r noson. Diolch o galon i’r ffotograffydd Martin Ellard, y llwyddodd ei waith ffotograffiaeth proffesiynol i ddal yr eiliadau cofiadwy yn ystod y noson.

Daeth y noson â chydweithwyr sy'n gwasanaethu ac wedi ymddeol, Aelodau'r Awdurdod Tân, cynrychiolwyr etholedig, noddwyr, partneriaid a chefnogwyr ynghyd, gan adlewyrchu'r perthnasoedd cryf sydd wedi helpu'r Gwasanaeth i esblygu a ffynnu dros y 30 mlynedd diwethaf.

Wrth i GTACGC edrych tua'r dyfodol, roedd Y Tu Hwnt i’r Galw: 30 Mlynedd Gyda’n Gilydd yn ddathliad addas o'i hanes, ei chyflawniadau ac, yn anad dim, y bobl y mae eu hymrwymiad yn parhau i wneud gwahaniaeth bob dydd.

To view the full album, visit Facebook




Erthygl Flaenorol