07.08.2026

Diffoddwyr Tân a Gwylwyr y Glannau yn Cydweithio ar gyfer Ymarfer Hyfforddi Achub ar Draeth

Yn ddiweddar, ymunodd criwiau o Orsafoedd Tân Llanelli, Cydweli a Phont-iets Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru â Gwylwyr y Glannau Porth Tywyn ar Draeth Pen-bre ar gyfer ymarfer hyfforddi achub arbenigol a oedd yn canolbwyntio ar achub anafusion oedd wedi'u dal mewn tywod.

Gan Steffan John



Yn ddiweddar, ymunodd criwiau o Orsafoedd Tân Llanelli, Cydweli a Phont-iets Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru â Gwylwyr y Glannau Porth Tywyn ar Draeth Pen-bre ar gyfer ymarfer hyfforddi achub arbenigol a oedd yn canolbwyntio ar achub anafusion oedd wedi'u dal mewn tywod.

Rhoddodd yr ymarfer gyfle i griwiau archwilio'r heriau sylweddol sy'n gysylltiedig ag ymdrin â chwymp tywod.  Tynnodd sylw at y gofynion corfforol a roddir ar achubwyr, a allai fod angen symud llawer iawn o dywod wrth weithio'n ofalus i amddiffyn a chyrraedd cleifion.  Dangosodd hefyd yr adnoddau a'r personél sylweddol a allai fod eu hangen yn ystod ymgyrch achub hirfaith.

Ochr yn ochr â'r elfen achub, canolbwyntiodd y sesiwn hefyd ar ofal cleifion, gan helpu criwiau i ddeall y cymhlethdodau meddygol a all godi pan fydd person wedi bod yn gaeth am gyfnod hir.

Bu’r ymarfer yn pwysleisio y gwerth mewn partneriaeth gref rhwng y gwasanaethau brys, yn enwedig mewn sefyllfaoedd lle mae cyfrifoldebau gweithredol yn gorgyffwrdd.  Nododd hefyd gyfleoedd ar gyfer hyfforddiant ar y cyd yn y dyfodol, gan alluogi'r ddau sefydliad i ddatblygu ymhellach eu dealltwriaeth o offer, galluoedd a gweithdrefnau ei gilydd wrth gryfhau eu gallu i gydweithio'n effeithiol yn ystod digwyddiadau yn y byd go iawn.







Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol