03.11.2026

Diffoddwyr Tân yn Llwyddo yn yr Her Offer Anadlu Genedlaethol

Ar 10 Hydref, cymerodd pump o ddiffoddwyr tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) ran yn Her Offer Anadlu Cenedlaethol 2026, a gynhaliwyd yng Ngholeg y Gwasanaeth Tân yn Moreton-in-Marsh, Swydd Gaerloyw.

Gan Rachel Kestin



Ar 10 Hydref, cymerodd pump o ddiffoddwyr tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) ran yn Her Offer Anadlu Cenedlaethol 2026, a gynhaliwyd yng Ngholeg y Gwasanaeth Tân yn Moreton-in-Marsh, Swydd Gaerloyw.

Daeth 22 o dimau diffodd tân o bob cwr o'r DU at ei gilydd yn y gystadleuaeth i brofi eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u gwaith tîm mewn sefyllfa dân realistig mewn eiddo. Rhoddwyd 30 munud i’r timau ddiffodd tân, achub pobl wedi’u hanafu, a dangos rhagoriaeth mewn gweithredu offer anadlu, rheoli digwyddiad, rheoli mynediad a gweithdrefnau maes tân.

Rhoddodd tîm GTACGC berfformiad rhagorol, gan ddod yn ail yn gyffredinol a sicrhau'r ail safle ar lefel genedlaethol

Daeth llwyddiant hefyd yng nghategorïau’r gwobrau unigol. Cafodd Dominic Norcross wobr Enillydd Rheoli Digwyddiadau, a oedd yn cydnabod ei arweinyddiaeth a'i benderfyniadau gweithredol trwy gydol yr her. Cafodd Morgan Lewis hefyd gydnabyddiaeth am ei arbenigedd, gan gyrraedd yr ail safle yn y categori ar gyfer y Gweithredwr Rheoli Mynediad Gorau.

Rhoddodd y gystadleuaeth gyfle i ddiffoddwyr tân ddangos eu cymhwysedd gweithredol, eu gallu i wneud penderfyniadau tactegol, a’u gwaith tîm mewn sefyllfa realistig a heriol. Yn ystod yr her, llwyddodd tîm GTACGC i roi egwyddorion diffodd tân cyfoes ar waith, gan ddefnyddio'r Model Cwadrant i asesu amodau'r tân, nodi'r safleoedd tactegol mwyaf diogel ac effeithiol, a chyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau gweithredol. Fe wnaeth y criw hefyd gyfrifo maint yr adran ac asesu'r llwyth tân, er mwyn gallu penderfynu ar gyfradd y llif oedd ei angen i reoli a diffodd y tân yn effeithiol. Roedd hyn yn dangos eu gallu i drosi theori diffodd tân fodern yn weithredu ymarferol o dan bwysau.

Er bod nifer y digwyddiadau sy'n gofyn am ddefnyddio offer anadlu wedi gostwng dros amser, mae amgylcheddau diffodd tân modern yn dod yn fwyfwy cymhleth oherwydd newidiadau i ddyluniad adeiladau, dulliau adeiladu, deunyddiau ac ymddygiad tân. Mae digwyddiadau fel yr Her Offer Anadlu Cenedlaethol yn rhoi cyfleoedd gwerthfawr i ddiffoddwyr tân ddatblygu a chynnal eu gallu gweithredol, dysgu o arferion gorau ledled y DU, ac atgyfnerthu'r sgiliau sydd eu hangen i ymateb yn ddiogel ac yn effeithiol i ddigwyddiadau cymhleth.

Mae cyflawniadau tîm GTACGC yn adlewyrchu'r lefelau uchel o broffesiynoldeb, sgiliau technegol ac ymroddiad a ddangosir gan ddiffoddwyr tân ar draws y Gwasanaeth ac yn tynnu sylw at eu hymrwymiad i ddiogelu ein cymunedau.





Dywedodd y Prif Swyddog Tân Craig Flannery, a oedd yno i gefnogi tîm GTACGC:

"Mae'r cyflawniad hwn yn adlewyrchu ymrwymiad, proffesiynoldeb a hyfforddiant helaeth ein diffoddwyr tân. Mae cael eich cydnabod ymhlith cystadleuaeth mor gref yn dangos y safonau eithriadol rydym yn eu cynnal ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru. Rydym yn hynod falch o'r tîm a phopeth maent wedi'i gyflawni.

"Wrth i amgylchedd yr ochr weithredol barhau i esblygu, mae'n dod yn fwyfwy pwysig bod ein diffoddwyr tân yn cynnal a datblygu'r sgiliau sydd eu hangen i ymdrin â digwyddiadau cymhleth yn ddiogel ac yn effeithiol. Mae'r Her Offer Anadlu Cenedlaethol yn rhoi llwyfan ardderchog i brofi'r sgiliau hynny, dysgu gan gyfoedion ledled y DU ac atgyfnerthu'r tactegau diffodd tân modern sy'n helpu i gadw ein cymunedau a'n diffoddwyr tân yn ddiogel."



Mae'r digwyddiad blynyddol yn hyrwyddo diogelwch diffoddwyr tân ac arferion gorau gweithredol ledled sector tân ac achub y DU ac fe'i noddwyd gan Draeger UK a'i gefnogi gan Elusen y Diffoddwyr Tân.

Hoffem longyfarch pawb wnaeth gymryd rhan.

#HerOACenedlaethol









Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf