Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gwahodd aelodau'r cyhoedd i fwynhau diwrnod llawn hwyl i'r teulu yn Niwrnod Agored Gorsaf Dân Caerfyrddin ddydd Gwener, 28 Awst 2026.
Bydd y digwyddiad, sy'n dathlu 30 mlynedd o’r Gwasanaeth Tân ac Achub, yn cael ei gynnal yng Ngorsaf Dân Caerfyrddin, Lôn Pisgwydd, Caerfyrddin, SA31 1SP, rhwng 10.30yb a 4yp.
Bydd y digwyddiad cymunedol rhad ac am ddim yn cynnig cyfle i ymwelwyr gwrdd â diffoddwyr tân, dysgu mwy am waith y Gwasanaeth a mwynhau amrywiaeth o weithgareddau sy'n addas i deuluoedd trwy gydol y dydd.
Bydd yna:
- Arddangosiadau diffodd tân byw
- Gweithgareddau i blant
- Profion ffitrwydd diffoddwyr tân
- Lluniaeth
- Arddangosfeydd gweithredol
- Raffl
- Cyfleoedd i gwrdd â diffoddwyr tân a staff cefnogol
Bydd ymwelwyr hefyd yn cael cyfle i gwrdd â Sbarc, masgot poblogaidd y Gwasanaeth.
Yn ogystal â chynnal diwrnod pleserus i deuluoedd, bydd y digwyddiad yn codi arian ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân, sy'n cefnogi aelodau sy'n gwasanaethu ac wedi ymddeol o gymuned tân ac achub y DU a'u teuluoedd.
Dywedodd y Prif Swyddog Tân, Craig Flannery: