06.07.2026

Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn Cefnogi Cyflwyno Cymorth Achub Bywyd i Wcráin

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cefnogi'r nawfed confoi o gyfarpar diffodd tân hanfodol i Wcráin, bedair blynedd ar ôl yr ymosodiad ar raddfa lawn.

Gan Steffan John



Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) wedi cefnogi'r nawfed confoi o gyfarpar diffodd tân hanfodol i Wcráin, bedair blynedd ar ôl yr ymosodiad ar raddfa lawn.

Cyrhaeddodd y confoi, a adawodd y DU ddydd Llun, 29 Mehefin 29, y ffin rhwng Gwlad Pwyl ac Wcráin ddydd Iau, 2 Gorffennaf, gyda cherbydau a chyfarpar yn cael eu trosglwyddo i bartneriaid Wcráin fel rhan o broses drosglwyddo gydlynol.

Wedi'i noddi gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG) a FIRE AID, danfonwyd y confoi trwy bartneriaeth genedlaethol gydlynol gan cynnwys Cydnerthedd Cenedlaethol, Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân, Tîm Chwilio ac Achub Rhyngwladol y DU (UK ISAR), a Gwasanaethau Tân ac Achub o bob cwr o Gymru a Lloegr.

Mae'r confoi diweddaraf hwn yn danfon 21 o gerbydau tân, gan gynnwys 17 o injans tân, a mwy na 2,300 o ddarnau o gyfarpar diffodd tân hanfodol, gan helpu i gymryd lle adnoddau hanfodol a gollwyd yn ystod y rhyfel. Mae hyn yn dod â chyfanswm cyfraniad y DU ers 2022 i 169 o gerbydau a mwy na 220,000 o ddarnau o gyfarpar.



Yn cynrychioli GTACGC yn ystod y confoi oedd y Rheolwr Gwylfa Robert Kershaw, a meddai:

"Rwy'n hynod falch o ymrwymiad ein Gwasanaeth i gefnogi'r elusen ac i gael cymorth hanfodol i Wcráin.

Mae gan y genhadaeth hon le arbennig iawn yn fy nghalon, gan fod fy nheulu wedi croesawu teulu o Wcráin am flwyddyn ac rydym yn eu hystyried bellach yn deulu i ni.  Mae bod yn ymwybodol o effaith y gwrthdaro hwn yn fy ngwneud i hyd yn oed yn fwy diolchgar i fod yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr sydd wedi ymrwymo i helpu gwasanaethau brys Wcráin i amddiffyn bywydau."





Mae rhoddion blaenorol gan Wasanaethau Tân ac Achub y DU eisoes yn cael effaith sylweddol ar lawr gwlad, gyda cherbydau wedi'u darparu trwy gonfois cynharach yn ymateb i fwy na 6,000 o ddigwyddiadau, a dros 2,500 o ddiffoddwyr tân o Wcráin wedi’u cyfarparu offer gwarchod personol ac offer anadlu cwbl weithredol.

Mae Gwasanaethau Tân ac Achub Wcráin yn parhau i wynebu heriau enfawr. Yn ôl Gwasanaeth Argyfwng y Wladwriaeth yn Wcráin, mae 481 o orsafoedd tân wedi cael eu dinistrio, gyda 106 arall wedi'u lleoli mewn tiriogaethau dan feddiannaeth, a 1,792 o gerbydau tân wedi'u colli. Ers i'r goresgyniad ar raddfa lawn ddechrau, mae 122 o ddiffoddwyr tân wedi cael eu lladd a 629 wedi'u hanafu, gyda thri yn parhau wedi eu caethiwo (ffigurau'n gywir ar 22 Mehefin 2026).

Er gwaethaf y colledion hyn, mae diffoddwyr tân Wcráin yn parhau i weithredu ar y rheng flaen - yn achub bywydau, yn amddiffyn seilwaith ac yn ymateb i argyfyngau dan fygythiad cyson.

Roedd y confoi yn cynnwys tua 80 o wirfoddolwyr o bob rhan o gymuned dân ac achub y DU sy'n rhoi o’u hamser i baratoi, gyrru a chyflenwi'r peiriannau a'r cyfarpar.

Mae'r Gwasanaethau Tân ac Achub sy'n cymryd rhan yn cynnwys Swydd Derby, Essex, Hampshire, Henffordd a Chaerwrangon, Caint, Swydd Gaerhirfryn, Llundain, Glannau Mersi, Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gogledd Cymru, Gogledd Swydd Efrog, De Cymru, De Swydd Efrog, Swydd Stafford, Surrey, Gorllewin Canolbarth Lloegr a Gorllewin Swydd Efrog.





Dywedodd Cadeirydd Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân (NFCC), Phil Garrigan:

"Mae cymuned Tân ac Achub y DU yn parhau i fod yn ddiwyro yn ei chefnogaeth i gydweithwyr yn Wcráin. Bedair blynedd ar ôl dechrau'r goresgyniad ar raddfa lawn, mae diffoddwyr tân Wcráin yn parhau i weithredu yn yr amodau mwyaf heriol a pheryglus y gellir eu dychmygu.

Mae'r nawfed confoi hwn yn dangos ymrwymiad parhaus gwasanaethau tân ac achub y DU i sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda'n cymheiriaid yn Wcráin. Bydd yr offer sy'n cael ei roi yn helpu i gymryd lle adnoddau hanfodol a gollwyd yn ystod y gwrthdaro ac yn sicrhau y gall diffoddwyr tân barhau â'u gwaith o achub bywydau.

Diffoddwyr tân yn cefnogi diffoddwyr tân. Mae'n enghraifft bwerus o'r cyfeillgarwch sy'n mynd y tu hwnt i ffiniau.

Mae'n hanfodol ein bod yn cydnabod yr heriau y mae ein cydweithwyr yn eu hwynebu a'n bod yn parhau i chwarae ein rhan."

Dywedodd Arweinydd FIRE AID Wcráin, Oksana Romanukha:

"Rydym unwaith eto yn gweld undod rhyfeddol cymunedau ledled y DU gydag Wcráin.

Mae'r cerbydau a'r offer hyn yn angenrheidiol, gan helpu i achub bywydau, amddiffyn diffoddwyr tân a chryfhau cydnerthedd cymunedau sydd dan fygythiad cyson.

Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb ar draws y gymuned tân ac achub, a phawb sy'n gysylltiedig, sydd wedi gwneud yr ymdrech ar y cyd hon yn bosibl.”

Dywedodd y Gweinidog dros Ddiogelwch Adeiladau, Tân a Democratiaeth, Samantha Dixon:

"Mae Wcráin wedi wynebu dioddefaint o’r radd eithaf, ac rydym yn parhau i fod yn ddiwyro yn ein cefnogaeth.

Bydd y confoi hwn yn darparu'r cyfarpar hanfodol sydd ei angen i helpu gwasanaeth tân Wcráin i achub bywydau, ymateb i ymosodiadau, ac amddiffyn eu cymunedau. 

Rwy'n hynod falch o'r gwirfoddolwyr dewr ar draws ein gwasanaeth tân ac achub, yn ogystal â'r holl sefydliadau sydd wedi chwarae rhan wrth symud yr asedau hanfodol hyn – gan sicrhau bod cymorth yn cyrraedd y rhai sydd ei angen fwyaf.”

Erthygl Flaenorol