Rheolwr Gwylfa Hughes GTADC
Mae gyda ni dri derbynnydd galwadau a dau weithredwr radio sy’n delio â galwadau tân, negeseuon radio, negeseuon adfer a cheisiadau am gymorth. Ar adegau, rhwng De a Chanolbarth Cymru, roeddem yn mynychu 30 o ddigwyddiadau, gyda mwy na 50 yn aros i gael eu hasesu ar gyfer ymateb.
Mae'r llinellau tân yn dal i ganu.
Os bydd injan ar gael mae hi’n ymddangos yn wyn, bydd yn dangos yn ddu os nad ydynt ar gael a choch os ydy hi wedi cael ei dyrannnu. Roedd cymaint o goch a du bob amser felly brawychus o brin oedd y peiriannau oedd ar gael i ddarparu cyflenwad ar gyfer tân ar draws GTADC. Doedd dim criwiau cymorth gyda ni, heblaw am y wylfa nesaf i ddod ar ddyletswydd.
Mae'r llinellau tân yn dal i ganu.
Mewn 22 mlynedd o dymhorau tanau glaswellt, mae staff bob amser wedi ymateb yn dda wrth gael eu hadalw. Eleni, roedd gwylfeydd ar eu gliniau gyda blinder.
Rywsut, fe lwyddom i ateb y rhan fwyaf o alwadau, danfon adnoddau, rheoli'r radio, trefnu cymorth a lluniaeth, a dal i fynd, gan wybod y byddai’r un peth yn digwydd y diwrnod wedyn.
Fe wnaethom ni ddal i fynd.