26.10.2026

Y Prif Swyddog Tân yn Cynrychioli'r Gwasanaeth yn Uwchgynhadledd Newid Hinsawdd a Gwydnwch Cymru

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi croesawu'r cyfle i gyfrannu at y trafodaethau cenedlaethol am wydnwch hinsawdd yn dilyn haf o weithgarwch tanau gwyllt digynsail ledled Cymru.

Gan Steffan John



Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) wedi croesawu'r cyfle i gyfrannu at y trafodaethau cenedlaethol am wydnwch hinsawdd yn dilyn haf o weithgarwch tanau gwyllt digynsail ledled Cymru.

Ddydd Iau 22 Hydref, cynrychiolodd y Prif Swyddog Tân Craig Flannery y Gwasanaeth yn Uwchgynhadledd Newid Hinsawdd a Gwydnwch Cymru, a alwyd gan Lywodraeth Cymru.

Daeth yr uwchgynhadledd â sefydliadau o bob cwr o Gymru ynghyd i ystyried y gwersi a ddysgwyd gan y tanau gwyllt diweddar a phwyso a mesur sut y gall gweithio mewn partneriaeth, sicrhau parodrwydd a gweithredu ar y cyd helpu cymunedau a gwasanaethau cyhoeddus i ymateb i heriau yn y dyfodol.




Wrth siarad yn dilyn y digwyddiad, dywedodd y Prif Swyddog Tân Craig Flannery:

"Mae'r tanau gwyllt digynsail a welwyd ledled Cymru yr haf hwn yn dangos sut mae'r risgiau sy'n wynebu ein cymunedau yn newid. Nid yw effeithiau newid hinsawdd bellach yn rhywbeth y gallwn ei ystyried yn y dyfodol. Maent yn digwydd nawr, gan effeithio ar ein cymunedau, ein hamgylchedd a’r galw a roddir ar wasanaethau brys a chyrff cyhoeddus ledled Cymru.

Mae diogelu ein cymunedau, ein pobl a’n hamgylchedd yn gofyn am ddull sy’n ystyried y system gyfan. Ni all un sefydliad unigol gwrdd â'r holl heriau hyn ar ei ben ei hun. Bydd adeiladu gwydnwch ar gyfer y dyfodol yn dibynnu ar weithio mewn partneriaeth gref, rhannu’r hyn a ddysgwn ac ymrwymiad ar y cyd i baratoi ar gyfer y risgiau sy'n dod i'r amlwg ac ymateb iddynt.

Roeddwn i’n falch o gynrychioli GTACGC yn yr Uwchgynhadledd Newid Hinsawdd a Gwydnwch a chefnogi arweiniad Llywodraeth Cymru wrth ddod â sefydliadau at ei gilydd i ganolbwyntio ar yr agenda hanfodol hon. Roedd yr uwchgynhadledd yn gyfle pwysig i nodi’r dysgu, rhannu profiadau, cryfhau cydweithredu ac ystyried sut y gallwn wella gwydnwch ledled Cymru gyda'n gilydd.

Dylai profiadau’r haf hwn fod yn rhybudd i bob un ohonom. Maent yn atgyfnerthu'r angen nid yn unig i ddeall sut mae risgiau'n esblygu, ond hefyd i sicrhau ein bod yn barod ar gyfer heriau’r hydref a'r gaeaf. Ni all un sefydliad ar ei ben ei hun sicrhau ein gwydnwch. Mae'n rhaid i wasanaethau cyhoeddus ledled Cymru gydweithio, cynllunio gyda'i gilydd a gweithredu gyda'i gilydd. Trwy wneud hynny, gallwn amddiffyn ein cymunedau, ein pobl a'n hamgylchedd yn well, heddiw ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."



Roedd cyfraniad y Gwasanaeth i'r uwchgynhadledd wedi ei seilio ar brofiadau diffoddwyr tân, personél Rheoli Tân ar y Cyd, staff cefnogi a sefydliadau partner a weithiodd drwy gydol yr haf i ddiogelu cymunedau, eiddo a'r amgylchedd naturiol yn ystod cyfnodau o weithgarwch tanau gwyllt sylweddol.

Fel rhan o'i ymrwymiad i gadw cymunedau'n ddiogel, mae GTACGC yn parhau i weithio'n agos gyda phartneriaid ledled Cymru i gryfhau parodrwydd, rhannu gwersi a ddysgwn gan ddigwyddiadau mawr a gwella gwydnwch i amrywiaeth o risgiau sy'n dod i'r amlwg, gan gynnwys digwyddiadau tywydd eithafol.

Mae'r Gwasanaeth yn parhau i fod yn ymrwymedig i chwarae ei ran wrth gefnogi dull cydweithredol i Gymru gyfan o sicrhau gwydnwch, a sicrhau bod cymunedau wedi eu paratoi'n well ar gyfer heriau heddiw a'r dyfodol.

Erthygl Flaenorol