20.05.2026

Criwiau Rhanbarth y De yn Cymryd Rhan mewn Ymarferion Hyfforddi ‘Dim Rhybudd’ Realistig ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae criwiau Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Rhanbarth y De wedi cwblhau cyfres o ymarferion hyfforddi gweithredol deinamig ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe, gan nodi dechrau'r hyn y disgwylir iddo ddod yn rhaglen reolaidd o weithgareddau hyfforddi 'heb eu cyhoeddi o flaen llaw'.

Gan Rachel Kestin



Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae criwiau Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Rhanbarth y De wedi cwblhau cyfres o ymarferion hyfforddi gweithredol deinamig ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe, gan nodi dechrau'r hyn y disgwylir iddo ddod yn rhaglen reolaidd o weithgareddau hyfforddi 'heb eu cyhoeddi o flaen llaw'.

Mae'r hyfforddiant hwn wedi'i gynllunio i adlewyrchu’r pwysau a natur anrhagweladwy argyfyngau bywyd go iawn, dim ond dyddiad a man cyfarfod a roddwyd i’r criwiau ymlaen llaw. Roedd y dull hwn yn caniatáu i'r criwiau ddangos eu sgiliau, eu barn a'u gwaith tîm o dan amodau gweithredol dilys yn hytrach na senarios wedi’u hymarfer. Y ffocws drwyddi draw oedd dysgu, nid perfformiad, gan greu amgylchedd diogel lle gellid nodi camgymeriadau, eu trafod yn agored a'u defnyddio ar gyfer gwella yn y dyfodol.



Pwysleisiodd Rheolwr yr Orsaf, Richard Davies, werth y dull hwn:

"Mae hyfforddiant realistig o ansawdd uchel yn hanfodol er mwyn sicrhau cymhwysedd, hyder a pharodrwydd gweithredol. Mae'r ymarferion dim rhybudd hyn yn rhoi cyfle gwerthfawr i ni brofi ein hymateb bywyd go iawn, atgyfnerthu diwylliant dysgu heb roi bai, a chryfhau ymddiriedaeth o fewn ein timau fel ein bod wedi ein paratoi yn y ffordd orau posibl ar gyfer yr adeg pan fydd yn wirioneddol bwysig.”

"Nod yr ymarferion yw cryfhau ymddiriedaeth a hyder o fewn timau. Mae myfyrio gonest, perthnasoedd cefnogol a rhannu dysg yn allweddol er mwyn creu'r amgylchedd cywir ar gyfer gwelliant parhaus."




Chwaraeodd cydweithio ran fawr yn llwyddiant yr ymarferion gyda’r Tîm Rheoli Tân ar y Cyd (JFC) yn gweithio'n agos gyda chriwiau, gan alluogi profion realistig o brosesau mobileiddio, cyfathrebu a llif gwybodaeth, a thynnu sylw at bwysigrwydd perthnasoedd proffesiynol cryf a chydymwybyddiaeth sefyllfaol rhwng lleoliad y digwyddiad a'n hystafell reoli.

Cymerodd tîm diogelwch Campws y Bae y Brifysgol ran hefyd, gan fanteisio ar y cyfle i brofi eu gweithdrefnau argyfwng eu hunain a chryfhau cydweithrediad rhwng y ddau sefydliad ymhellach.



Dywedodd Nicola Dadd, Rheolwr Cyffredinol Campws Bae Prifysgol Abertawe: 

"Roedd yn brofiad gwirioneddol werthfawr cynnal ymarferion hyfforddi byw, heb rybudd ar y campws mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Roedd realaeth y senarios yn rhoi cyfle arbennig i'r ddau dîm gydweithio mewn amgylchedd rheoledig ond hynod ddilys. O ganlyniad, mae gennym hyd yn oed mwy o hyder yn sut y byddem yn cyd-ymateb i ddigwyddiad go iawn ar y safle.

"Mae'r bartneriaeth hon wedi bod yn hynod gadarnhaol, ac rydym yn awyddus i barhau i gydweithio i gynnal ymarferion pellach yn y blynyddoedd i ddod, gan gryfhau ein parodrwydd a sicrhau diogelwch pawb ar y campws.”




Diolch yn fawr iawn i Swyddogion Cyswllt Gorsafoedd (SLOs) Rhanbarth y De am eu gwaith yn datblygu a chyflawni'r senarios, i JFC am reoli mobileiddio a’r traffig radio, ac i'r tîm Strwythur Rheoli Digwyddiadau (ICS) am ddarparu offer ac arbenigedd rheoli drwyddi draw.

Mae'r ymarferion hyn yn gam pwysig i wella parodrwydd gweithredol, ac mae disgwyl cynllunio gweithgareddau pellach, wrth i'r dull hwn barhau i ddatblygu a sicrhau bod diffoddwyr tân GTACGC yn gwbl barod i ymateb i ddigwyddiadau go iawn.







Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf