23.04.2026

Criwiau Tân yn Rhoi eu Sgiliau ar Brawf mewn Ymarferiad Hyfforddi Realistig

Yn ddiweddar, cymerodd diffoddwyr tân o Orsafoedd Tân Castellnewydd Emlyn a Llandysul ran mewn ymarferiad hyfforddi ar y cyd oddi ar y safle a gynlluniwyd i hogi eu sgiliau a chryfhau gwaith tîm.

Gan Lily Evans



Yn ddiweddar, cymerodd diffoddwyr tân o Orsafoedd Tân Castellnewydd Emlyn a Llandysul ran mewn ymarferiad hyfforddi ar y cyd oddi ar y safle a gynlluniwyd i hogi eu sgiliau a chryfhau gwaith tîm.



Nos Lun, 13 Ebrill, cymerodd criwiau o'r ddwy orsaf ran mewn ymarferiad chwilio ac achub gydag offer anadlu (BA) yn SERB Pharmaceuticals yn Ffostrasol, Llandysul. Roedd y senario yn efelychu tân yn yr adeilad, gyda nifer o bobl y tu mewn, gan greu amgylchedd hyfforddi heriol a realistig.

Rhoddodd yr ymarferiad gyfle i'r ddau griw ymarfer gweithdrefnau gweithredol hanfodol wrth wisgo cit BA a gweithio mewn adeilad llawn mwg. Trwy hyfforddi mewn lleoliad diwydiannol go iawn, roedd y criwiau’n gallu ennill profiad ymarferol gwerthfawr, gan eu helpu i weithredu'n ddiogel ac yn effeithiol mewn sefyllfaoedd tebyg i ddigwyddiadau go iawn.

Diolch yn arbennig i SERB Pharmaceuticals am eu cydweithrediad rhagorol, wrth baratoi ar gyfer yr ymarferiad ac am eu cefnogaeth ar y noson. Roedd eu parodrwydd i ganiatáu i’n criwiau ddefnyddio eu hadeiladau yn allweddol wrth wneud yr hyfforddiant yn realistig ac yn llwyddiannus.






Roedd yr ymarferiad yn gyfle gwerthfawr i griwiau hyfforddi gyda'i gilydd, cryfhau ein cydlyniad gweithredol a nodi pwyntiau dysgu allweddol ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol.

Iwan Jones - Rheolwr Gwylfa


Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Ar hyn o bryd mae Gorsafoedd Tân Castellnewydd Emlyn a Llandysul yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol