11.09.2026

Diffoddwyr Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn Cwblhau Her Dringo Grisiau 9/11!

Mae naw diffoddwr tân o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) wedi llwyddo i gwblhau sialens dringo grisiau heriol dros 110 llawr yn Atlanta, UDA, er cof am y 343 o ddiffoddwyr tân a gollodd eu bywydau yn ystod yr ymosodiadau terfysgol ar 11 Medi, 2001.

Gan Rachel Kestin



Mae naw diffoddwr tân o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) wedi llwyddo i gwblhau sialens dringo grisiau heriol dros 110 llawr yn Atlanta, UDA, er cof am y 343 o ddiffoddwyr tân a gollodd eu bywydau yn ystod yr ymosodiadau terfysgol ar 11 Medi, 2001.

Gan gymryd rhan yn yr Her Dringo Grisiau Er Cof am 9/11, a hynny 25 mlynedd ers yr ymosodiadau, dringodd y tîm yr hyn sy’n cyfateb i 110 o loriau tyrau Canolfan Masnach y Byd i anrhydeddu dewrder, aberth ac ymroddiad y diffoddwyr tân a roddodd eu bywydau wrth ymateb i ddigwyddiadau 9/11.

Yn cynrychioli CTACGC roedd y Rheolwyr Gorsaf Carl Williams ac Oliver Tziros, y Rheolwyr Criw Antony Pugh a Steven Ratcliff, a’r Diffoddwyr Tân Rebecca Barden, Rhys Fitzgerald, Lisa Reynolds, Cristian James a Trystan Griffiths.

Ar ôl hyfforddi am sawl mis i baratoi, cwblhaodd y tîm y ddringfa heriol ochr yn ochr â diffoddwyr tân a phersonél y gwasanaethau brys o bob cwr o’r byd.

Disgrifiodd aelodau’r tîm y profiad fel un “emosiynol” a “bythgofiadwy” wnaeth iddyn nhw deimlo’n “ostyngedig”, gyda sawl diffoddwr tân yn cario enwau a ffotograffau diffoddwyr tân unigol a fu farw yn ystod yr ymosodiadau. Dywedodd y Diffoddwr Tân Rebecca Barden fod dringo er cof am y Diffoddwr Tân Michael J. Clarke wedi gwneud yr her yn “llawer mwy emosiynol”, tra bod Rheolwr y Criw Antony Pugh, a wyliodd y digwyddiad yn datblygu fel plentyn 13 oed, yn ystyried gymaint o anrhydedd oedd dringo er cof am y rhai nad oeddent “erioed wedi cyrraedd adref”. Dywedodd y Diffoddwr Tân Rhys Fitzgerald, a ddringodd er cof am y Capten Daniel J. Brethel, fod y dasg yn heriol yn gorfforol ond “dim byd o’i gymharu â’u haberth”.

Fe wnaethant hefyd siarad am y cyfeillgarwch cryf trwy gydol y digwyddiad, gyda’r Diffoddwr Tân Christian James yn disgrifio’r profiad fel “digwyddiad arbennig” a atgyfnerthodd yr ymdeimlad o fod yn rhan o deulu diffodd tân byd-eang. Ychwanegodd y Rheolwr Gorsaf Oliver Tziros fod sefyll ochr yn ochr â diffoddwyr tân ac ymatebwyr cyntaf o bob cwr o’r byd i gofio’r 343 o ddiffoddwyr tân a fu farw yn “rhywbeth na wna’ i fyth ei anghofio”.

 

Yn ogystal â choffáu’r rhai a gollwyd, bu i’r her godi arian gwerthfawr ar gyfer tair elusen sy’n cefnogi aelodau o gymuned y gwasanaethau brys a’u teuluoedd.

 

Mae’r tîm yn gobeithio bod eu hymdrechion nid yn unig wedi anrhydeddu’r cof am y diffoddwyr tân a gollwyd, ond hefyd wedi cydnabod yr ymrwymiad parhaus, y gwydnwch a’r aberth a ddangosir gan bersonél y gwasanaethau brys bob dydd.

Llongyfarchiadau i’r tîm ar y cyflawniad anhygoel hwn.



Erthygl Flaenorol