11.05.2026

Digwyddiad: Diffoddwyr Tân yn Achub Buwch yn Y Trallwng

Ddydd Iau, Mai 7fed, ymatebodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Machynlleth, Llanfair Caereinion a’r Trallwng i achub buwch yn Y Trallwng.

Gan Steffan John



Am 10.57yh, ddydd Iau, Mai 7fed, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Machynlleth, Llanfair Caereinion a’r Trallwng i ddigwyddiad yng Nghefn Coch yn Y Trallwng.

Ymatebodd y criwiau i fuwch a oedd wedi mynd yn sownd mewn mwd dwfn.  Defnyddiodd y criwiau offer arbenigol, gan gynnwys stropiau a mat llithro, i ryddhau’r anifail yn ddiogel.  Diolch i’w hymdrechion cydlynol, cafodd ei thynnu’n llwyddiannus o’r mwd ac oedd yn sefyll ar ei phedair troed eto.

Gadawodd y criwiau am 12.39yb, ddydd Gwener, Mai 8fed.





Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol