29.05.2026

Digwyddiad: Tân Bwriadol yng Nghlwb Rygbi Trimsaran

Ddydd Sadwrn, Mai 23ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Llanelli, Pont-iets a Chydweli eu galw i ddigwyddiad yng Nghlwb Rygbi Trimsaran.

Gan Steffan John



Am 6.15yp, ddydd Sadwrn, Mai 23ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Llanelli, Pont-iets a Chydweli eu galw i ddigwyddiad yng Nghlwb Rygbi Trimsaran.

Ymatebodd y criwiau i dân yn effeithio ar un cynhwysydd llongau a ddefnyddiwyd ar gyfer storio.  Defnyddiodd y criwiau ddau set o offer anadlu, dwy chwistrell olwyn piben, lledaenwyr e-draulic, ysgolion a chamerâu delweddu thermol i ddiffodd y tân.  Roedd y tân wedi lledu i eiddo cyfagos ac wedi effeithio ar ei do.

Credir bod y tân wedi’i gynnau’n fwriadol.  Dioddefodd bachgen 11 oed anafiadau difrifol yn ystod y digwyddiad ac mae’n parhau mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.  Arestiwyd bachgen 13 oed gan Heddlu Dyfed-Powys ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol a cheisio llofruddiaeth, mae bellach wedi’i ryddhau ar fechnïaeth amodol.  Mae’r ymchwiliad yn parhau.

Gadawodd y criwiau am 7.56yh.




Lluniau gan Trimsaran RFC.




Lleihau Tanau Bwriadol

Mae llosgi bwriadol yn drosedd ddifrifol a all achosi difrod ar raddfa fawr a hyd yn oed marwolaeth.

Gall digwyddiadau o ganlyniad i losgi bwriadol roi pwysau aruthrol ar adnoddau Gwasanaethau Tân ac Achub a gwasanaethau brys eraill, yn ogystal â dargyfeirio adnoddau o argyfyngau eraill, gan o bosibl oedi amseroedd ymateb ar gyfer damweiniau gwirioneddol mewn mannau eraill.  Maent hefyd yn peri perygl gwirioneddol i ddiogelwch a bywydau Diffoddwyr Tân oherwydd eu natur anrhagweladwy.

Mae atal a mynd i’r afael â llosgi bwriadol yn flaenoriaeth o bwys i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.  Nid yn unig y mae hyn yn cynnwys ymateb cyflym i ddigwyddiadau ac ymchwiliadau tân, ond hefyd cydweithio’n agos gyda’r Heddlu, Awdurdodau Lleol, cymunedau a sawl asiantaeth bartner arall i nodi risgiau ac addysgu’r cyhoedd.

Erthygl Flaenorol