Ddydd Mawrth, 26 Mai, croesawodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) enillydd cystadleuaeth 'Diffoddwr Tân am Ddiwrnod', Elijah, 5 oed, i Orsaf Dân Port Talbot.
Cafodd breuddwydion Elijah eu gwireddu yr wythnos hon pan gafodd gyfle i fod yn ddiffoddwr tân go iawn. Daw'r ymweliad arbennig ar adeg arbennig o ystyrlon, wrth i'r Gwasanaeth nodi 30 mlynedd ers dechrau gwasanaethu cymuned Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Cyrhaeddodd Elijah, sy’n ddilynwr brwd o Sam Tân, yn llawn cyffro a brwdfrydedd. Yng nghwmni ei fam’[gu, ei dad-cu a'i fam, mwynhaodd fore llawn gweithgareddau ymarferol a phrofiadau bythgofiadwy.
Yn ystod yr ymweliad, cafodd Elijah gyfle i deithio mewn injan dân, defnyddio pibell olwyn, gweld y Peiriant ag Ysgol Drofwrdd ar waith, mynd trwy'r babell fwg ac archwilio'r orsaf ochr yn ochr â Gwylfa Goch Port Talbot. Treuliodd staff Diogelwch Cymunedol Castell-nedd Port Talbot amser hefyd yn dysgu sgiliau diogelwch tân pwysig iddo ar gyfer y cartref, gan sicrhau bod y diwrnod yn hwyl ac yn addysgiadol.
Manteisiodd Elijah ar bob eiliad, gan greu argraff ar y criw gyda'i egni. Gan ychwanegu at y cyffro, ymddangosodd y masgot Sam Tân a Sbarc, gan roi atgof arbennig iawn i Elijah.
Wrth i GTACGC ddathlu ei ben-blwydd yn 30 oed, mae digwyddiadau fel hyn yn tynnu sylw at y cysylltiad cryf rhwng y Gwasanaeth a'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu. Roedd ymweliad Elijah yn atgof llawen o bwysigrwydd ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf a rhannu'r gwerthoedd sydd wedi llunio'r sefydliad dros y tri degawd diwethaf.
Llongyfarchiadau enfawr i Elijah, fe gafodd y diwrnod gorau, ac yn sicr fe roddodd y criwiau ar brawf!