23.06.2026

GTACGC a Chanolfan Argyfwng Teulu Sir Drefaldwyn yn Uno yn Erbyn Trais Domestig yn ystod Cwpan y Byd Pêl-droed

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn ymuno â Chanolfan Argyfwng Teulu Sir Drefaldwyn i godi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig ac i atgoffa cymunedau bod cymorth ar gael bob amser.

Gan Rachel Kestin



Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn ymuno â Chanolfan Argyfwng Teulu Sir Drefaldwyn i godi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig ac i atgoffa cymunedau bod cymorth ar gael bob amser.

Yn ystod Cwpan y Byd Pêl-droed bydd llawer o bobl yn dod at ei gilydd i fwynhau cyffro'r twrnamaint. Ond i'r rhai sy'n byw gyda cham-drin domestig, gall digwyddiadau chwaraeon mawr ddod â mwy o ofn a risg. Er nad yw pêl-droed ei hun yn achosi cam-drin domestig, gall emosiynau uwch, defnyddio alcohol / cyffuriau, ac ymddygiad sydd eisoes yn gamdriniol wneud diwrnodau gêm yn fwy peryglus i ddioddefwyr a goroeswyr.

Mae ymchwil yn dangos cynnydd clir mewn trais domestig yn ystod twrnameintiau pêl-droed mawr, gyda digwyddiadau’n cynyddu 38% pan fydd Lloegr yn colli a 26% pan fyddant yn ennill*.

Mae pob Gorsaf ar draws GTACGC wedi'i ddynodi'n Hafan Ddiogel, gan roi lle diogel i aelodau o'r cyhoedd sy'n teimlo'n anniogel, dan fygythiad neu wedi’u dychryn. 



Dywedodd Jay Crouch, Arweinydd Diogelu GTACGC:

"Yn ystod twrnameintiau chwaraeon mawr, mae cam-drin domestig yn cynyddu, ac rydym am atgoffa ein cymunedau, os oes angen lle diogel arnoch, mae GTACGC bob amser yma i chi.

Gall unrhyw un sy'n teimlo eu bod mewn perygl uniongyrchol neu’n agored i niwed fynd i’w gorsaf agosaf, lle mae ein staff wedi'u hyfforddi ac yn barod i roi cymorth. Ffoniwch 999 unrhyw bryd a gofynnwch am fynediad i Hafan Ddiogel eich Gorsaf Dân leol.

Dylai cartref fod yn lle diogel ac os nad ydyw, dewch atom ni - ein gorsaf ni yw eich gorsaf chi."



Ychwanegodd Hayley Heard, Canolfan Argyfwng Teulu Sir Drefaldwyn:

"Mae Canolfan Argyfwng Teulu Sir Drefaldwyn yn sefyll gydag unrhyw un sy'n cael ei effeithio gan gam-drin domestig. Mae ein neges yn glir: nid yw cam-drin byth yn dderbyniol, ac ni ddylai neb deimlo'n anniogel yn eu cartref eu hunain. Rydym yn annog ffrindiau, teuluoedd, cymdogion a chymunedau i fod yn effro i arwyddion cam-drin, i wirio'n ddiogel gydag unrhyw un y maent yn poeni amdano, ac i helpu pobl i gyrraedd cymorth arbenigol.

Yn ystod Cwpan y Byd a thu hwnt, bydd Canolfan Argyfwng Teulu Sir Drefaldwyn yn parhau i weithio i leihau risg, cynnig arweiniad, a chefnogi menywod, dynion a phlant yr effeithir arnynt gan gam-drin domestig. Os ydych chi’n cael eich dychryn, eich rheoli, eich bygwth neu'ch niweidio gan rywun sy'n agos atoch chi, cysylltwch â Chanolfan Argyfwng Teulu Sir Drefaldwyn ar 01686 629114. Os ydych chi mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999."



Rydym yn annog y gymuned i edrych allan am ei gilydd, nid yn unig yn ystod Cwpan y Byd, ond bob dydd.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Supporting anyone experiencing or affected by domestic abuse in North Powys | MFCC a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru – Hafanau Diogel

*Ystadegau gan Cymorth i Ferched

Erthygl Flaenorol