Ddydd Sul, Ebrill 26ain, cynhaliodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) ei trydedd Gynhadledd Diffoddwyr Tân Ar Alwad, ym Mhafiliwn yr Aelodau ar Faes Sioe Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-Muallt.
Nod y gynhadledd oedd tynnu sylw at y gwaith sy’n cael ei wneud o fewn GTACGC a thu hwnt i wella’r System Dyletswydd Ar Alwad, yn ogystal â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am fentrau’r Gwasanaeth, megis y Cynllun Rheoli Risg Cymunedol, a thrafod argymhellion a phryderon ynghylch gwella recriwtio a chadw Diffoddwyr Tân Ar Alwad o fewn GTACGC.
Croesawodd y gynhadledd siaradwyr allanol, gan gynnwys Dirprwy Brif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Swydd Gaerhirfryn a Swyddog Arweiniol Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân ar gyfer Ar Alwad, Steve Healey KFSM a Claire McMinn o Elusen y Diffoddwyr Tân.
Mae llwyddiannau diweddar wrth drawsnewid System Dyletswydd Ar Alwad GTACGC a recriwtio a chadw Diffoddwyr Tân yn cynnwys dyfarnu Gwobr Prosiect y Flwyddyn i Raglen Gwella Ar Alwad y Gwasanaeth yng Ngwobrau Rhagoriaeth mewn Tân ac Argyfwng a chynnydd o 3% yn argaeledd Ar Alwad.