21.07.2026

Llongyfarchiadau i Dîm Golff Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru

Llongyfarchiadau i Dîm Golff Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru, a gynrychiolodd y genedl â balchder yn Nhwrnamaint Golff y 4 Gwlad a gynhaliwyd yng Nghlwb Golff Old Thorns, Hampshire

Gan Rachel Kestin



Llongyfarchiadau i Dîm Golff Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru, a gynrychiolodd y genedl â balchder yn Nhwrnamaint Golff y 4 Gwlad a gynhaliwyd yng Nghlwb Golff Old Thorns, Hampshire.

Da iawn i bob un o'r 10 chwaraewr a ddewiswyd i gynrychioli Cymru, dan arweiniad y capten Lewis Knoyle, ar eu camp.

Llongyfarchiadau arbennig i Shane McDonnell. Nid yn unig y gwnaeth helpu i sicrhau buddugoliaeth i'r Cymry ond fe enillodd dlws hefyd am sgorio’r nifer fwyaf o byrdis yn ystod y gystadleuaeth ddeuddydd. Gorffennodd Shane hefyd yn gydradd gyntaf yn y digwyddiad unigol, gan golli allan ar y teitl o drwch blewyn ar ôl yr ôl-gyfrif.

Yn olaf, diolch o galon i noddwyr y tîm. Gwnaeth eu cefnogaeth werthfawr hi’n bosibl i’r tîm gymryd rhan yn y digwyddiad.

Da iawn i bawb a gymerodd ran ar lwyddiant gwych i Gymru!



Erthygl Flaenorol