Ddydd Mawrth, 4 Awst, ymunodd aelodau o dîm Diogelwch Cymunedol Rhanbarth y De Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) ag Ospreys in the Community, Heddlu De Cymru, a Diogelwch Ffyrdd Cyngor Abertawe i gyflwyno diwrnod difyr a rhyngweithiol i 40 o bobl ifanc rhwng 16 a 20 oed yn Academi Chwaraeon Llandarcy.
Roedd sesiwn y bore yn canolbwyntio ar ddiogelwch ar y ffyrdd, gan gynnwys Stori Olivia, cyflwyniad Fatal 5, a thechnoleg VR, gan dynnu sylw at bwysigrwydd gwneud dewisiadau diogel ar ein ffyrdd.
Yn y prynhawn, bu’r bobl ifanc yn edrych ar gyfleoedd gyrfa o fewn y gwasanaethau brys ac yn gwneud amrywiaeth o weithgareddau ymarferol, gan gynnwys: arddangosiadau taflu rhaffau, gwibgertio, gogls cwrw, a her diffodd tân yn erbyn y cloc i ddadrolio pibell a llusgo dymis!
Bu cyfle i fyfyrwyr ddysgu gwybodaeth werthfawr am wahanol swyddi pob sefydliad hefyd, ac i ofyn cwestiynau a dysgu mwy am y cyfrifoldebau a'r llwybrau gyrfa sydd ar gael yn y gwasanaethau brys ac asiantaethau partner.
Roedd yn ddiwrnod gwych o ddysgu, cydweithio ac ymgysylltu. Diolch i bawb a ddaeth am sicrhau llwyddiant y digwyddiad!