23.10.2026

Paratoi i Ddiogelu: Diffoddwyr Tân Aberystwyth yn Cwblhau Ymarfer Hyfforddi Gwrthdrawiadau ar y Ffyrdd

Ddydd Iau, Hydref 22ain, cymerodd Diffoddwyr Tân o Orsaf Dân Aberystwyth ran mewn ymarfer hyfforddi realistig yn ymwneud â gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd. 

Gan Steffan John



Ddydd Iau, Hydref 22ain, cymerodd Diffoddwyr Tân o Orsaf Dân Aberystwyth ran mewn ymarfer hyfforddi realistig yn ymwneud â gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd. 





Nod yr ymarfer oedd cryfhau a mireinio’r sgiliau sydd eu hangen wrth ymateb i ddigwyddiadau difrifol ar ein ffyrdd.

Yn ystod yr ymarfer, bu’r Diffoddwyr Tân yn gweithredu amrywiaeth o ddulliau rhyddhau arbenigol, gan gynnwys torri a lledaenu paneli cerbydau, rheoli gwydr a datgelu rhannau o fewn y cerbydau i nodi ceblau a chaniau nwy cudd.  Mae’r technegau hyn yn hanfodol ar gyfer cyrraedd cleifion sy’n sownd yn ddiogel ac yn effeithlon gan leihau’r risg o anafiadau pellach.






Mae ymarferion hyfforddi rheolaidd fel hyn yn helpu Diffoddwyr Tân i gynnal y lefel uchel o barodrwydd gweithredol sydd ei angen i ymateb i wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd.  Drwy ddatblygu eu sgiliau’n barhaus mewn senarios realistig, mae’r criwiau mewn sefyllfa well i ddiogelu eu cymunedau, darparu cymorth sy’n achub bywydau, a sicrhau’r canlyniad gorau posibl i’r rhai sy’n ynghlwm ag argyfyngau.






Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn!

Ar hyn o bryd mae GTACGC yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o'n Gwasanaeth a'ch cymuned.  

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn rhoi llawer o gyfleoedd ar gyfer  datblygu’n bersonol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn cael tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys taliadau cadw a thaliadau am gael eu galw allan, sy'n ychwanegu at eu hincwm o waith arall.

Erthygl Flaenorol