Y Cynghorydd Collin J. Crowley (ar y chwith) a'r Cynghorydd Matt Crowley (ar y dde).
Gyda'i gilydd, mae tad a mab wedi cyflawni carreg filltir unigryw, ar ôl gwasanaethu gyda'i gilydd ochr yn ochr â phob Prif Swyddog Tân yn hanes y Gwasanaeth modern.
Dechreuodd cysylltiad y teulu Crowley â GTACGC cyn i'r sefydliad gael ei sefydlu'n ffurfiol. Gwasanaethodd y Cynghorydd Collin J. Crowley ar yr Awdurdod Tân Cysgodol yn 1995 cyn cael ei benodi'n swyddogol i Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (ATACGC) yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol ym mis Mai 1996, gan gynrychioli Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
Yn aelod uchel ei barch o'r Awdurdod, gwasanaethodd y Cynghorydd Collin J. Crowley hyd nes iddo farw ym mis Mehefin 2013. Rhwng 2007 a 2009, ef oedd yr aelod Llafur cyntaf i gael ei ethol yn unfrydol yn Is-gadeirydd a Chadeirydd yr Awdurdod. Ynghyd â'i wasanaeth ar Gyngor Sir Gorllewin Morgannwg a'i rôl fel Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Diogelwch Tân Cymunedol Cymru, treuliodd 39 mlynedd yn cefnogi'r Gwasanaeth Tân ac Achub.
Wedi'i ysbrydoli gan ymrwymiad ei dad i wasanaeth cyhoeddus, ymunodd y Cynghorydd Matt Crowley â'r Awdurdod Tân ym mis Mehefin 2017 ac mae'n parhau i wasanaethu heddiw.
Er nad oeddent yn gwasanaethu ar yr Awdurdod ar yr un pryd, mae eu gwasanaeth cyfunol yn rhychwantu holl hanes GTACGC. Mae’r tad a’r mab wedi cadeirio pwyllgorau allweddol o fewn yr Awdurdod, gan gynnwys y Pwyllgor Perfformiad, Archwilio a Chraffu a'r Pwyllgor Rheoli Adnoddau. Gwasanaethodd y Cynghorydd Matt Crowley hefyd fel Arweinydd Grŵp yr Aelodau Gwleidyddol Llafur.