Gyda nifer o danau gwyllt yn parhau ar draws ardal ein Gwasanaeth, roeddem eisiau rhannu rhywfaint o wybodaeth am sut mae'r digwyddiadau hyn yn cael eu rheoli a'r hyn y gallai trigolion ei weld yn digwydd wrth i waith diffodd tân barhau.
Pan ddywedir bod tân gwyllt "dan reolaeth", nid yw o reidrwydd yn golygu ei fod wedi'i ddiffodd yn llawn. Mewn gweithrediadau i daclo tanau gwyllt, mae'n golygu bod criwiau wedi sefydlu tactegau a mesurau rheoli i gyfyngu’r tân, ei atal rhag lledaenu ymhellach a rheoli’r risgiau i gymunedau, seilwaith a'r amgylchedd.
Gall tanau gwyllt barhau i fod yn fyw am gyfnodau hir a, hyd yn oed pan fydd digwyddiad yn sefydlog, gall trigolion sylwi ar fflamau newydd neu fwy o fwg ar brydiau. Mae hyn yn aml yn rhan arferol o'r broses ddiffodd, gan fod Diffoddwyr Tân yn lleoli, yn dadorchuddio, yn oeri ac yn diffodd mannau poeth a all aros yn gudd o dan yr wyneb. Nid yw’r gweithgaredd hwn o reidrwydd yn dangos unrhyw newid sylweddol yn y digwyddiad.
Mae tanau gwyllt yn ymddwyn yn wahanol iawn i fathau eraill o danau ac yn gofyn am dactegau arbenigol. Un o'r dulliau mwyaf effeithiol a ddefnyddir gan wasanaethau tân ac achub ledled y DU ac yn rhyngwladol yw defnyddio atalfeydd tân naturiol a rhai wedi'u creu. Trwy gael gwared ar y tanwydd sydd ar gael, mae atalfeydd tân yn helpu i arafu neu atal lledaeniad tân, gan ganiatáu i griwiau amddiffyn cymunedau, eiddo, seilwaith a'r amgylchedd ehangach.
Mae'r rhain a thactegau eraill yn cael eu dewis gan arbenigwyr tanau gwyllt hyfforddedig a phenaethiaid digwyddiadau, yn seiliedig ar yr amodau lleol a chanllawiau gweithredu sefydledig.
Rydym yn gwerthfawrogi y gallai gweld mwg, fflamau neu weithgarwch diffodd tân yn dal i fynd am sawl diwrnod achosi pryder, ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i roi diweddariadau rheolaidd wrth i ddigwyddiadau ddatblygu.
Yn olaf, hoffem ddiolch i bawb sy'n ymateb i'r digwyddiadau hyn. Mae ein Diffoddwyr Tân yn parhau i weithio'n ddiflino mewn amodau heriol, gyda chefnogaeth asiantaethau partner, tirfeddianwyr, gwirfoddolwyr a chymunedau lleol. Mae'r cydweithrediad, yr amynedd a'r gefnogaeth a ddangosir gan drigolion yn chwarae rhan hanfodol i helpu i reoli'r digwyddiadau hyn yn ddiogel ac yn effeithiol.
A chofiwch, byddwch yn #DdoethiDanauGwyllt.