22.06.2026

Y Gwasanaeth Tân ac Achub yn annog y cyhoedd i gadw'n ddiogel yn ystod gwres eithafol

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn annog pobl i gymryd gofal ychwanegol yn ystod y cyfnod presennol o wres eithafol, ar ôl i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi Rhybudd Gwres Eithafol Coch ar gyfer rhannau o Gymru a rhagolygon o dymheredd sy'n torri record yn y dyddiau nesaf.

Gan Rachel Kestin



Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn annog pobl i gymryd gofal ychwanegol yn ystod y cyfnod presennol o wres eithafol, ar ôl i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi Rhybudd Gwres Eithafol Coch ar gyfer rhannau o Gymru a rhagolygon o dymheredd sy'n torri record yn y dyddiau nesaf.

Gyda disgwyl i'r tymheredd godi'n sylweddol yr wythnos hon, rydym yn atgoffa cymunedau i fwynhau'r tywydd cynnes yn gyfrifol ac i fod yn ymwybodol o'r risgiau cynyddol sy'n gysylltiedig ag amodau poeth a sych hir.

Gall yr amodau hyn gynyddu'r risg o danau, gan gynnwys tanau glaswellt a chefn gwlad, ond hefyd roi pwysau ychwanegol ar bobl, seilwaith a’r gwasanaethau brys. Felly, rydym yn annog y cyhoedd i gymryd rhagofalon syml i ofalu am eu hunain, eu teuluoedd a'u cymunedau.

Dywedodd Aled Griffiths, Pennaeth Diogelwch Cymunedol GTACGC:

“Gyda thymheredd uchel iawn yn cael ei ragweld ar draws Cymru yr wythnos hon, mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn cymryd gofal ychwanegol i aros yn ddiogel ac i leihau risgiau y gellir eu hosgoi. Rydyn ni eisiau i bawb fwynhau'r haul, ond gall yr amodau hyn gynyddu'r tebygolrwydd o ddigwyddiadau, gan gynnwys tanau ac argyfyngau sy'n gysylltiedig â dŵr. Gall gweithredoedd bach wneud gwahaniaeth mawr - boed hynny'n defnyddio barbeciws yn ddiogel, gwaredu pethau ysmygu yn gyfrifol, neu gymryd gofal ychwanegol o amgylch dŵr agored."



Mae'r Gwasanaeth yn atgoffa preswylwyr ac ymwelwyr i ddilyn y cyngor diogelwch allweddol hwn:

Barbeciw a diogelwch yn yr awyr agored

  • Rhaid rhoi barbeciws bob tro ar arwyneb fflat nad yw'n llosgi, ymhell o adeiladau, ffensys, glaswellt sych a llwyni.
  • Peidiwch byth â gadael barbeciw heb unrhyw un yn cadw golwg arno.
  • Gwnewch yn siŵr ei fod wedi'i ddiffodd yn llawn ac wedi oeri cyn gwaredu’r lludw.

Atal tân

  • Mae angen osgoi cynnau tanau yn yr awyr agored, gan gynnwys tanau gwersyll, yn enwedig mewn ardaloedd sych, glaswelltog neu wledig.
  • Peidiwch â thaflu sigaréts, matsis na photeli gwydr, gan y gall y rhain danio tanau yn hawdd mewn amodau poeth.
  • Peidiwch byth â chynnau tanau agored yng nghefn gwlad – mae llystyfiant sych yn golygu y bydd tanau’n lledaenu'n gyflym ac yn hawdd.
  • Mae'n anghyfreithlon llosgi glaswellt neu wastraff gardd yr adeg hon o'r flwyddyn.

Diogelwch dŵr

  • Byddwch yn ofalus wrth nofio mewn dŵr agored fel llynnoedd, afonydd a chronfeydd dŵr – gall y dŵr fod yn llawer oerach na'r disgwyl.
  • Dylech osgoi neidio neu blymio i ddyfroedd anhysbys.
  • Peidiwch byth â mynd i mewn i'r dŵr o dan ddylanwad alcohol.

Arnofio i Fyw

Er mwyn arnofio i fyw rhag ofn y bydd trafferthion yn y dŵr, dilynwch y camau hyn:

  • Rhowch eich pen yn ôl gyda’ch clustiau o dan y dŵr.
  • Ceisiwch ymlacio ac anadlu fel arfer.
  • Symudwch eich dwylo a'ch coesau i'ch helpu i arnofio; mae'n iawn i’ch coesau'n suddo, gan ein bod ni i gyd yn arnofio'n wahanol.

Gall llawer o bobl, yn enwedig y rhai nad ydynt yn gyfarwydd â nofio awyr agored, danamcangyfrif risgiau cudd. Mae peryglon tanddwr a thymheredd dŵr sy’n gyson yn isel yn golygu bod sioc dŵr oer yn parhau i fod yn berygl gwirioneddol, hyd yn oed ar ddiwrnodau poeth. Gall hyn wneud i chi gymryd anadl anwirfoddol, anadlu’n gyflym, mynd i banig, a cholli’r gallu i nofio yn sydyn, gan gynyddu'r risg o foddi'n sylweddol.

Os oes rhywun mewn trafferth yn y dŵr, y ffordd orau i helpu yw cadw’ch pwyll, aros ar dir sych, a chofio Ffonio, Arnofio, Taflu:

  • Ffoniwch 999 i alw’r gwasanaethau brys.
  • Dywedwch wrthyn nhw am fod yn bwyllog ac arnofio ar eu cefn.
  • Taflwch gyfarpar achub i'w helpu i arnofio nes bod y gwasanaethau brys yn cyrraedd

I weld negeseuon diogelwch ac i gael gwybodaeth, cyngor neu arweiniad am Ddiogelwch Dŵr, edrychwch ar ein cyfrifon Cyfryngau Cymdeithasol ac ewch i'n gwefan.

Dysgwch fwy am ##DoethiDanauGwyllt, lle gallwch hefyd gael mynediad at eiriau o gyngor diogelwch syml a lawrlwytho negeseuon diogelwch yr ymgyrch i'w defnyddio ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol eich hun.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf