Richard a Brad Phillips
Mae'r Diffoddwr Tân Richard Phillips wedi gwasanaethu cymuned Llandrindod ers dros 24 mlynedd, wedi'i ysgogi gan awydd i ymgymryd â rôl a oedd yn heriol ac yn werth chweil. I Richard, mae'r cyfle i wasanaethu a chefnogi ei gymuned leol yn parhau i fod yn un o'r rhannau pwysicaf o fod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad.
Ymunodd mab Richard, y Diffoddwr Tân Brad Phillips, â chriw Llandrindod dair blynedd yn ôl ac ers hynny mae wedi defnyddio'r sgiliau a'r profiad a gafodd fel Diffoddwr Tân Ar Alwad i symud ymlaen i rôl Diffoddwr Tân Amser Cyflawn gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yng Ngorsaf Dân Glynebwy. I Brad, mae'r rhannau mwyaf gwerth chweil o'r rôl yn cynnwys bod yn aelod uchel ei barch o'r gymuned a gweld y rhyddhad a'r gwerthfawrogiad y mae pobl yn ei ddangos pan fydd y criw yn cyrraedd digwyddiad.
Mae cysylltiad y teulu â Gorsaf Dân Llandrindod yn ymestyn hyd yn oed ymhellach, gyda merch Richard hefyd wedi gwasanaethu fel Diffoddwr Tân yn y gorffennol.